Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

SAFEGUARDING WELSH PLACE NAMES IN DENBIGHSHIRE

Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 6)

DIOGELU ENWAU LLEOEDD CYMRAEG YN SIR DDINBYCH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Tim Dillon, Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd, i gyfarfod y pwyllgor. Arweiniodd yr Aelod Arweiniol Aelodau trwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan nodi bod yr adroddiad yn cyflwyno dyletswyddau a rôl yr awdurdod o ran diogelu enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol yn y sir.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd ragor o fanylion i aelodau gan ddweud mai’r sefyllfa gyfreithiol oedd rhoi sylw dyledus i’r canllawiau, a threftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Nid oedd yn ddyletswydd benodol i fod ag enwau Cymraeg caeth, ond dylid rhoi sylw dyledus i hyn. Dywedwyd wrth Aelodau fod Sir Ddinbych wedi cymeradwyo polisi yn ddiweddar iawn yng nghyd-destun enwi a rhifo strydoedd, lle’r oedd yr awdurdod yn dangos yn uwch na’r gofyniad cyfreithiol. O fewn y polisi a fabwysiadwyd, roedd yn nodi bod rhaid i unrhyw stryd newydd a gaiff ei henwi yn yr awdurdod fod yn y Gymraeg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddog i sylwadau, pryderon a chwestiynau'r Aelodau fel a ganlyn –

 

·         Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm y byddai’n dilyn trywydd pryderon a godwyd gan gynghorwyr o ran strydoedd penodol yn wardiau’r aelodau. Gofynnodd i Aelodau gysylltu ag ef gyda manylion er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

·         Gallai perchennog ystâd newydd gynnig enwau i’r sir eu cymeradwyo gan ddilyn y broses a thrafodaethau cywir.

·         Rhoddwyd canmoliaeth i’r awdurdod am yr ymrwymiad o ran enwi strydoedd yn y Gymraeg.

·         Mynegodd Aelodau bryderon am ddefnyddio’r gair ‘drive’ ar enwau strydoedd Cymraeg. Defnyddiwyd y gair ‘Ffordd’ ar nifer o arwyddion stryd. Awgrymodd yr Arweinydd Tîm y dylid argymell i’r Cabinet bod y polisi’n cael ei ddiwygio i ddileu’r gair ‘Dreif/Drive’ o’r rhestr a nodir yn y polisi. Dywedodd y Cydlynydd Craffu y gallai hwn fod yn benderfyniad i’r Aelod Arweiniol gan mai dim ond mân ddiwygiad oedd hwn. Byddai eglurder o ran y weithdrefn gywir yn cael ei geisio a’i fabwysiadu.

·         Nododd Aelodau bwysigrwydd y dreftadaeth sy’n sail i nifer o ffyrdd ag enwau Cymraeg. Roedd dyletswydd ar Awdurdodau lleol i roi ystyriaeth i enwau Cymraeg hanesyddol ac nid y dehongliad neu gyfieithiad llythrennol.

·         Roedd y polisi’n nodi na ellid enwi stryd ar ôl unigolyn, byw neu farw. Byddai newid enw stryd bresennol yn cael ei wneud gan ddilyn y weithdrefn sydd wedi’i nodi yn y polisi newid enw strydoedd. Byddai polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddilyn er mwyn i’r newid hwnnw gael ei wneud. 

 

Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben ac amlygodd y pryder am y diwygiad i’r polisi a godwyd gan Aelodau i’w ystyried wrth ffurfio eu penderfyniadau. Ar ôl trafodaeth olaf ar y penderfyniadau -

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           Cadarnhau eu bod yn fodlon fod y Cyngor yn defnyddio ei holl bwerau o ran diogelu enwau Cymraeg a hanesyddol yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig; a

(ii)          Bod sylwadau’n cael eu gwneud i’r Aelod Cabinet Arweiniol gan ofyn iddo dan bwerau a gafodd eu dirprwyo iddo fel Aelod Arweiniol, gymeradwyo dileu’r rhagddodiad/ôl-ddodiad ‘Dreif/Drive’ o’r rhestr ‘Enwau Strydoedd Newydd’ yn Adran B2 Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd Sir Ddinbych 2021.