Mater - cyfarfodydd
SAFEGUARDING WELSH PLACE NAMES IN DENBIGHSHIRE
Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 6)
DIOGELU ENWAU LLEOEDD CYMRAEG YN SIR DDINBYCH
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Croesawodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd, Tim Dillon, Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd, i gyfarfod y pwyllgor.
Arweiniodd yr Aelod Arweiniol Aelodau trwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes)
gan nodi bod yr adroddiad yn cyflwyno dyletswyddau a rôl yr awdurdod o ran
diogelu enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol yn y sir.
Rhoddodd yr Arweinydd Tîm –
Tîm Lleoedd ragor o fanylion i aelodau gan ddweud mai’r sefyllfa gyfreithiol
oedd rhoi sylw dyledus i’r canllawiau, a threftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Nid oedd
yn ddyletswydd benodol i fod ag enwau Cymraeg caeth, ond dylid rhoi sylw
dyledus i hyn. Dywedwyd wrth Aelodau fod Sir Ddinbych wedi cymeradwyo polisi yn
ddiweddar iawn yng nghyd-destun enwi a rhifo strydoedd, lle’r oedd yr awdurdod
yn dangos yn uwch na’r gofyniad cyfreithiol. O fewn y polisi a fabwysiadwyd,
roedd yn nodi bod rhaid i unrhyw stryd newydd a gaiff ei henwi yn yr awdurdod
fod yn y Gymraeg.
Diolchodd y Cadeirydd i’r
Swyddog a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol
a’r swyddog i sylwadau, pryderon a chwestiynau'r Aelodau fel a ganlyn –
·
Cadarnhaodd yr Arweinydd
Tîm y byddai’n dilyn trywydd pryderon a godwyd gan gynghorwyr o ran strydoedd
penodol yn wardiau’r aelodau. Gofynnodd i Aelodau gysylltu ag ef gyda manylion
er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.
·
Gallai perchennog ystâd
newydd gynnig enwau i’r sir eu cymeradwyo gan ddilyn y broses a thrafodaethau
cywir.
·
Rhoddwyd canmoliaeth i’r
awdurdod am yr ymrwymiad o ran enwi strydoedd yn y Gymraeg.
·
Mynegodd Aelodau bryderon
am ddefnyddio’r gair ‘drive’ ar enwau strydoedd Cymraeg. Defnyddiwyd y gair
‘Ffordd’ ar nifer o arwyddion stryd. Awgrymodd yr Arweinydd Tîm y dylid
argymell i’r Cabinet bod y polisi’n cael ei ddiwygio i ddileu’r gair
‘Dreif/Drive’ o’r rhestr a nodir yn y polisi. Dywedodd y Cydlynydd Craffu y
gallai hwn fod yn benderfyniad i’r Aelod Arweiniol gan mai dim ond mân
ddiwygiad oedd hwn. Byddai eglurder o ran y weithdrefn gywir yn cael ei geisio
a’i fabwysiadu.
·
Nododd Aelodau bwysigrwydd
y dreftadaeth sy’n sail i nifer o ffyrdd ag enwau Cymraeg. Roedd dyletswydd ar
Awdurdodau lleol i roi ystyriaeth i enwau Cymraeg hanesyddol ac nid y
dehongliad neu gyfieithiad llythrennol.
·
Roedd y polisi’n nodi na
ellid enwi stryd ar ôl unigolyn, byw neu farw. Byddai newid enw stryd bresennol
yn cael ei wneud gan ddilyn y weithdrefn sydd wedi’i nodi yn y polisi newid enw
strydoedd. Byddai polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddilyn er mwyn i’r newid
hwnnw gael ei wneud.
Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben ac amlygodd y
pryder am y diwygiad i’r polisi a godwyd gan Aelodau i’w ystyried wrth ffurfio
eu penderfyniadau. Ar ôl trafodaeth olaf ar y penderfyniadau -
Penderfynwyd, yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
Cadarnhau eu bod yn
fodlon fod y Cyngor yn defnyddio ei holl bwerau o ran diogelu enwau Cymraeg a
hanesyddol yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig; a
(ii)
Bod sylwadau’n cael eu
gwneud i’r Aelod Cabinet Arweiniol gan ofyn iddo dan bwerau a gafodd eu
dirprwyo iddo fel Aelod Arweiniol, gymeradwyo dileu’r rhagddodiad/ôl-ddodiad
‘Dreif/Drive’ o’r rhestr ‘Enwau Strydoedd Newydd’ yn Adran B2 Polisi Enwi a
Rhifo Strydoedd Sir Ddinbych 2021.