Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DENBIGHSHIRE'S GYPSY AND TRAVELLER ACCOMMODATION ASSESSMENT (2021)

Cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 9)

9 ASESIAD LLETY SIPSIWN A THEITHWYR SIR DDINBYCH (2021) pdf eicon PDF 246 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Reolwr Cynllunio Strategol a Thai y Cyngor a’r Rheolwr Prosiect Arweiniol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno i’r Pwyllgor gasgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr newydd.  Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r Pwyllgor ffurfio argymhellion i’r Cabinet mewn perthynas â’r asesiad drafft.

 

1pm - 2pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig ochr yn ochr â’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a'r Cynghorydd Barry Mellor, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Asesu Anghenion Llety Sipsiwn a Theithiwyr adroddiad  ar y broses a ddilynwyd i ymgymryd ag Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych (2021). Hefyd ynghlwm â'r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) roedd yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft ar gyfer Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig ychydig o gefndir i’r Pwyllgor ar gynhyrchiad yr adroddiad. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar Awdurdodau Lleol i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr (Adran 101) ac yna bodloni’r anghenion hynny (Adran 103).  Mae yna ofyniad cyfreithiol (Deddf Tai (Cymru) 2014 i gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob 5 mlynedd felly roedd yn ofynnol yn awr i’r Cyngor gynnal Asesiad newydd. Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddar hefyd yn ofynnol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru yw 24 Chwefror 2022.

 

Mae dull rheoli prosiectau cadarn wedi’i fabwysiadu drwy sefydliad Bwrdd Prosiect o dan arweiniad Aelod, gyda’r Arweinydd a’r Aelod Arweiniol yn gweithio gydag Uwch Swyddogion i gyfeirio’r gwaith i sicrhau ymgysylltiad Aelodau, agoredrwydd a thryloywder drwy gydol y broses.

 

Roedd Aelodau Etholedig a’r Pwyllgor Craffu wedi codi pryderon eisoes ynghylch y lefel o ymgynghoriad gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr a’r angen i ymgysylltu’n gynnar gyda’r Aelodau. O ganlyniad i hyn, yn ei gyfarfod ar 13 Mai 2021, cytunodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau y dylid sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i ddarparu cefnogaeth ar gyfer datblygiad y Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Caderydd y Grŵp Tasg a Gorffen wrth y Pwyllgor bod y Grwŵp Tasg a Gorffen wedi cyfarfod chwe gwaith. Roedd ei drafodaethau wedi cynnwys pob agwedd ar fethodoleg Llywodraeth Cymru. Edrychwyd ar ar gynnydd yr asesiad, cyfathrebiadau â rhanddeiliaid a chasgliadau’r adroddiad Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft. Roedd eu hadroddiad terfynol ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 1.

 

Roedd y Briff Gwaith a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn cynnwys gweithgareddau i ddiwallu gofynion methodoleg Llywodraeth Cymru yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol a ddynodwyd fel rhai pwysig i'r Cyngor, Roedd y rhain yn darparu’r fframwaith ar gyfer ymgymryd â’r Asesiad o Anghenion Llety. Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol yn cynnwys arolwg ar-lein ar gyfer aelodau ac aelodau’n chware rhan mewn hyrwyddo’r arolwg – sicrhau bod aelodau’n fwy ymgysylltiedig o’r camau cynharaf. Fe wnaeth penodiad Swyddog Cyswllt Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ystod mis Awst hefyd sicrhau bod teuluoedd teithiol oedd yn y sir yn ystod cyfnod yr Asesiad wedi cael gwybod amdano.

 

I gloi dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor bod casgliadau ac argymhellion drafft yr Asesiad o Anghenion wedi’u cyflwyno i’r Grŵp Tasg a Gorffen yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd.  Yn y cyfarfod hwnnw cytunodd y Grŵp eu bod yn fodlon y defnyddiwyd methodoleg Llywodraeth Cymru yn briodol wrth ddadansoddi’r angen a bod y gweithgareddau ychwanegol a nododd Craffu eisoes wedi'u hymgymryd â nhw.  Er bod y gwaith wedi gofyn am gryn ymrwymiad gan y Grŵp Tasg a Gorffen yn ystod y misoedd diwethaf, roedd pawb yn teimlo bod y dull o weithredu wedi gweithio'n dda.  O ganlyniad, roedd y Grŵp wedi gwneud cais bod dull tebyg cael ei fabwysiadu yn  ...  view the full Cofnodion text for item 9