Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Waith Archwilio

Cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 7)

7 RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11.50am – 12.05pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu (SC) adroddiad (wedi’i rannu eisoes) yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar y materion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol:-

 

·         Dywedodd SC y bydd pedair eitem bwysig yn cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Ni soniwyd am unrhyw eitemau eraill ar gyfer y cyfarfod hwn.

·         Ni chyfeiriwyd unrhyw eitemau ychwanegol o’r cyfarfod diwethaf o Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021.

·         Yn y cyfarfod diwethaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, trafododd yr aelodau’r posibilrwydd o beidio cynnal cyfarfodydd Craffu yn y cyfnod cyn yr etholiad ym mis Mai 2022.  Yn y 6 wythnos cyn yr etholiadau ni fyddai unrhyw benderfyniadau cynhennus yn cael eu gwneud. Cytunwyd na fyddai cyfarfodydd Craffu yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw oni bai bod eitem frys yn codi. Bydd cyfarfod olaf y Pwyllgor hwn cyn y cyfnod cyn-etholiad hwnnw yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth 2022.

·         Atgoffwyd yr aelodau bod angen iddynt lenwi ffurflen cynnig pwnc craffu os oes unrhyw fater y maent am iddo gael ei archwilio mewn manylder.

·         Rhoddodd SC ddiweddariad i’r aelodau o’r cyfarfod diwethaf ar Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn ac a yw'r awdurdod yn berchennog ar unrhyw dir torlannol yno. Cadarnhaodd SC mai perchnogion y tir sy’n gyfrifol am gynnal ffiniau sy’n cyffinio â’r ffos/gwter. Yn yr adroddiad a gafodd yr aelodau roedd lluniau'n dangos y tir sy’n eiddo i CSDd.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  - Yn amodol ar y sylwadau uchod y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor