Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

CORPORATE PLAN UPDATE, QUARTER 2, 2021 TO 2022

Cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet (Eitem 10)

10 DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL, CHWARTER 2, 2021-2022 pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2021-2022 ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf – Medi 2021).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r datblygiad yng nghyflawni’r Cynllun Corfforaethol fel ag y mae ddiwedd chwarter 2, 2021/2021, ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar ddarpariaeth Cynllun Corfforaethol 2021 - 2022 hyd ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf –Medi 2021).

 

Roedd Cynllun Corfforaethol 2017-2022 yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i flaenoriaethau ac roedd cyfnod pum mlynedd y cynllun bron â dod i ben. Roedd y mwyafrif helaeth o gynlluniau wedi'u darparu neu ar fin cael eu darparu, ond bu’n rhaid oedi rhai ohonynt yn sgil Covid-19. Roedd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Corfforaethol yn parhau i fonitro darpariaeth y cynllun ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i nodi gwersi a ddysgwyd ac edrych ymlaen at ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol nesaf ar gyfer y Cyngor newydd. Roedd y crynodeb cyffredinol yn nodi dau fesur fel ‘blaenoriaeth ar gyfer gwella’, fel yr oedd eisoes wedi'i nodi ar gyfer Cysylltu Cymunedau a Phobl Ifanc, ond roedd yr elfennau prosiectau wedi’u hasesu fel ‘da’ neu uwch.

 

Nododd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad bod mesurau blaenoriaeth ar gyfer gwella’n adlewyrchu ardaloedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac roedd y prosiectau a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor wedi perfformio’n well. Roedd y meysydd gwan yn cynnwys ffigurau Un Llwybr Mynediad At Dai (SARTH) a oedd yn parhau i fod yn uchel, roedd disgwyl i adroddiad ymchwil gael ei lunio erbyn diwedd y flwyddyn, ac roedd cynnydd y prosiect teithio (Cysylltu Cymunedau) wedi bod yn araf yn sgil yr angen am rôl rheoli prosiect mae’n debyg. Er bod data pwysau iach ar gyfer plant mewn ysgolion cynradd (Pobl Ifanc) wedi dangos gwelliant, roedd yn parhau i fod yn achos pryder gan fod y cyllid ar gyfer y prosiect maetheg ysgolion bron â dod i ben, roedd hyn yn codi ystyriaethau mewn perthynas â’r graddau y gallai'r cyngor ddylanwadu ar / rheoli pwysau pobl ifanc. Nid oedd unrhyw bryderon mewn perthynas â blaenoriaeth yr Amgylchedd.  O ran y canlyniad iechyd corfforaethol, roedd y saith maes llywodraethu'n ymddangos yn iach ac nid oedd llawer o bryderon yn codi, fodd bynnag, roedd absenoldeb salwch wedi cynyddu rhywfaint. 

 

Amlygodd yr Arweinydd bod y Cynllun Corfforaethol wedi bod yn fwriadol uchelgeisiol ac roedd y meysydd heriol yn ymwneud yn bennaf â’r blaenoriaethau hynny a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Nododd bod cysylltedd digidol yn faes arbennig o heriol ac roedd y Cyngor wedi ceisio dylanwadu ar gyflymder y newid, ac er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ni lwyddwyd i symud ymlaen fel y gobeithiwyd. Roedd yn werth nodi bod rhai blaenoriaethau a nodwyd ar ddechrau tymor cyfredol y Cyngor yn parhau i fod yn berthnasol a gobeithiwyd y byddai’r gwasanaethau’n parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a’u sefydlu mewn cynlluniau gwasanaeth i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 2021/22 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.