Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REGIONAL MEMORY ASSESSMENT SUPPORT SERVICE INVITATION TO TENDER (ITT)

Cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet (Eitem 8)

8 GWAHODDIAD I DENDRO'R GWASANAETH ASESU COF RHANBARTHOL pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Sir Ddinbych weithredu fel Comisiynydd Arweiniol ar Wahoddiad i Dendro'r Gwasanaeth Asesu Cof Rhanbarthol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

                        

(a)       Cyngor Sir Ddinbych i weithredu fel Comisiynydd Arweiniol y Gwahoddiad i Dendro’r Gwasanaeth Asesu Cof Rhanbarthol;

 

(b)       yr ymarferiad Gwahoddiad i Dendro i gael ei arwain gan dîm caffael Cyngor Sir Ddinbych er mwyn sicrhau bod y drefn briodol yn cael ei dilyn, sydd yn gymwys i lefel gwerth y contract posibl, ac

 

(c)        y Cabinet i gadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Sir Ddinbych (CSDd) weithredu fel y comisiynydd arweiniol ar ran y Tîm Cydweithio Rhanbarthol (partneriaid y chwe Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru] ar Wahoddiad i Dendro gyda gwerth contract posibl o hyd at £3.36 miliwn (dros gyfnod posibl o 5 mlynedd) ar gyfer y Gwasanaeth Asesu Cymorth Cof Rhanbarthol. Byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithrediad Strategaeth Ddementia Gogledd Cymru.

 

Roedd y rhanbarth wedi sicrhau cyllid ychwanegol / newydd a chylchol gwerth £672,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull rhanbarthol gwell i gefnogi unigolion â dementia neu broblemau / pryderon mewn perthynas â'r cof yn ystod y camau cyn-asesu ac ôl-ddiagnosis. Darparwyd manylion y llwybr asesu cof integredig rhanbarthol i ddarparu gwasanaeth rhanbarthol hygyrch, effeithlon, effeithiol a theg ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr. Byddai’r gwahoddiad i dendro'n nodi partneriaid y gallai'r prosiect weithio gyda nhw i ddatblygu'r ddarpariaeth ranbarthol hanfodol ac roedd manylion pellach y broses dendro/comisiynu wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. O ystyried mai CSDd oedd awdurdod cynnal y gwasanaeth cydweithio rhanbarthol, ceisiwyd cymeradwyaeth gwasanaeth gan y Cabinet i’w galluogi i weithredu fel comisiynydd arweiniol ar y tendr ar gyfer y rhanbarth.

 

Nododd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod pob partner yn awyddus i ymgymryd ag ymarfer cydgomisiynu ac na fyddai disgwyl  i GSDd ddarparu unrhyw gostau neu gefnogaeth ychwanegol.  Mewn ymateb i ymholiad gan yr Arweinydd ynghylch y risg yn adran 10.2 o'r adroddiad, cadarnhawyd y byddai pwy bynnag fyddai’n cymryd rôl yr awdurdod arweiniol yn cael eu hindemnio gan bob un o’r partneriaid mewn perthynas â’r risg o her gyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD bod:

                        

 (a)      Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel y Comisiynydd Arweiniol ar gyfer y Gwahoddiad i Dendro'r Gwasanaeth Asesu Cymorth Cof Rhanbarthol

 

 (b)      ymarfer y Gwahoddiad i Dendro’n cael ei arwain gan dîm caffael Cyngor Sir Ddinbych er mwyn sicrhau bod y drefn briodol yn cael ei dilyn sy’n addas ar gyfer gwerth posibl y contract, a 

 

 (c)       y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a rhoi ystyriaeth i'r Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad I yr adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.