Mater - cyfarfodydd
LLANNERCH BRIDGE
Cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet (Eitem 5)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddisodli’r bont yn
amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth i’r egwyddor o newid y bont, yn amodol ar
sicrhau’r cyllid angenrheidiol. Golyga hyn gysylltu â Llywodraeth Cymru i wneud
cais am nawdd allanol.
Cofnodion:
[Symudwyd
yr eitem hon ymlaen ar y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]
Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddisodli
Pont Llannerch (sydd wedi’i lleoli rhwng Trefnant a Thremeirchion), a gollwyd
ym mis Ionawr 2021 yn ystod storm Christoph, yn amodol ar sicrhau’r cyllid
angenrheidiol.
Roedd
Pont Llannerch yn ffurfio rhan o lwybr a ddefnyddiwyd yn helaeth a chysylltiad
pwysig ar gyfer cymunedau yn yr ardal. Roedd swyddogion wedi bod yn gweithio
gydag ymgynghorwyr i ystyried beth allai fod yn bosibl yn nhermau gosod pont
newydd yn ei lle a hefyd faint fyddai hyn yn ei gostio, ac oherwydd y lleoliad
a'r elfennau technegol, daethpwyd i’r canlyniad y gallai gostio rhwng £6 miliwn
a £7 miliwn ac fe fyddai’n amodol ar sicrhau’r cyllid perthnasol. Cynigwyd y dylid cymryd camau i geisio cyllid
allanol, yn arbennig cysylltu â Llywodraeth Cymru, ac ymgymryd â pheth gwaith
paratoi er mwyn datblygu achos busnes mwy cadarn, ac felly cynyddu'r potensial
o ddenu cyllid allanol. Roedd
ymarfer ymgysylltu cyhoeddus wedi cael ei gynnal a’r brif neges a ddeuai yn ôl
oedd bod y gymuned eisiau i ni osod pont newydd yn lle’r bont a gwneud hynny
cyn gynted â phosibl ac mae’r ymarfer hefyd wedi darparu tystiolaeth o
gefnogaeth gymunedol sylweddol i gryfhau’r achos busnes. Roedd y Cynghorydd
Jones yn gefnogol o ymdrechion yr aelodau lleol i sicrhau pont newydd ac
eglurodd, er gwaethaf eu hymdrechion, nad oedd darparu pont newydd dros dro yn
hyfyw o ystyried y cymhlethdodau sydd ynghlwm â chyflwr y tir a ffactorau
eraill.
Roedd y Cabinet yn cydnabod gwerth Pont Llannerch i gymunedau gwledig ac
yn gefnogol o argymhellion yr adroddiad. Ymatebodd y Cynghorydd Jones i gwestiynau gan gadarnhau y byddai unrhyw
bont newydd a adeiladir yn bodloni safonau modern ac hefyd yn cymryd barn pobl
leol i ystyriaeth i sicrhau ei bod yn ateb y gofyn, a’i bod hefyd yn debyg i'r
bont rhestredig gradd II blaenorol. Roedd yn hyderus y byddai achos busnes cryf
yn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ac amlygodd y posibilrwydd o gynnwys
teithio llesol a chysylltedd cymunedau i gryfhau’r achos ymhellach. Os na fyddai modd sicrhau cyllid gan
Lywodraeth Cymru, byddai ffynonellau cyllido allanol eraill yn cael eu
hystyried. Nodwyd, er bod y bont wedi’i chynnwys ar restr y Cyngor o brosiectau
posibl i’r dyfodol (o ystyried y posibilrwydd na fydd pont newydd yn cael ei
hariannu’n llawn, ac y bydd angen cyfraniad ariannol o bosibl), nid oedd cyllid
wedi cael ei ddyrannu hyd yma o fewn yr adnoddau cyfalaf cyfyngedig at y diben
hwnnw.
Amlygodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr
Christine Marston a Meirick Davies bwysigrwydd y bont i gymunedau lleol a’r
effaith andwyol mae colli’r bont wedi’i chael yn gymdeithasol ac yn economaidd,
ac mae hyn yn amlwg yn y cyfoeth o ymatebion a gafwyd i'r ymarfer ymgysylltu
cyhoeddus. Roedd y Cynghorydd Davies hefyd yn teimlo y dylid
cofnodi statws rhestredig y bont ac y dylai’r argymhelliad gael ei gryfhau
ymhellach i sicrhau’r cyllid hanfodol ar gyfer pont newydd. Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion i bwyntiau a godwyd, ac roedd y cwestiynau pellach fel a ganlyn -
·
ystyriwyd y dylid datblygu
achos busnes cadarn cyn cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio cyllid yn
ffurfiol, fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru yn y dechrau pan
gollwyd y bont am fwriad y Cyngor i geisio cyllid ar gyfer pont newydd.
· o ystyried graddfa a natur y prosiect sydd ei angen o ganlyniad i’r llifogydd sylweddol, roedd yn rhesymol i’r Cyngor droi at Lywodraeth Cymru am gyllid – os na fyddai’r ymgais yn llwyddiannus, byddai'n rhaid i'r ... view the full Cofnodion text for item 5