Mater - cyfarfodydd
MEIFOD UPDATE
Cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet (Eitem 6)
6 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FEIFOD PDF 221 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) ar ddyfodol Meifod yn dilyn ystyriaeth o’r opsiynau gan
fudd-ddeiliaid perthnasol, Grŵp Tasg a Gorffen y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) Bod Meifod yn cael ei agor
fel gwasanaeth wedi ei reoli gan y Cyngor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu
cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny, yn dilyn buddsoddiad angenrheidiol
i’r adeilad/cyfleusterau presennol. Yr oedd disgwyl y gallai’r gwasanaeth
ailagor erbyn Chwefror 2022, fodd bynnag gall hyn fod yn gynt os gorffennir y
gwaith yn gyflym;
(b) bod swyddogion yn darparu
opsiynau i aelodau eu hystyried drwy’r broses wleidyddol sefydledig ar:
·
ffyrdd newydd o weithio ym
Meifod i wella dysgu a sgiliau ar amrediad o weithgareddau, gan gynnwys
gweithio â phren
·
modelau cyflawni gwasanaeth
amgen ar gyfer y gweithredu ym Meifod, gyda’r bwriad o wella cynaliadwyedd
hir-dymor y gwasanaeth, gan fod y brydles ar yr adeilad yn dod i ben mewn 4
blynedd
(c) bod swyddogion yn sefydlu
grŵp budd-ddeiliaid yn cynnwys unigolion sy’n mynychu Meifod a pherthnasau
cynrychioladol, neu eiriolwyr, i sicrhau eu bod yn cael ymwneud ag ailagoriad y
gwasanaeth ynghyd â datblygu opsiynau ar gyfer ei weithredu yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad ar ddyfodol Meifod yn dilyn ystyriaeth o’r opsiynau
gan fudd-ddeiliaid perthnasol, Grŵp Tasg a Gorffen y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Cymerodd y cyfle hefyd i
ddiolch i bawb a oedd wedi bod ynghlwm â’r broses am eu gwaith caled.
Roedd
Meifod yn wasanaeth cyfleodd gwaith uchel ei barch i oedolion ag anableddau
dysgu dan reolaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. Roedd y gwasanaeth wedi’i
leoli mewn uned ffatri a rentir yn Ninbych sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu
cynnyrch coed. Roedd y cyfleuster wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 yn sgil y
pandemig Covid-19 ac o ganlyniad, roedd y Cyngor wedi cymryd y cyfle i ystyried
dyfodol y cyfleuster. Roedd pawb yn cytuno bod Meifod yn wasanaeth gwerthfawr
ac yn cefnogi’r cynnig i ailagor y cyfleuster cyn gynted â phosibl; rhagwelwyd
y byddai modd cwblhau'r gwaith hanfodol ac ailagor Meifod erbyn mis Chwefror.
Roedd y brydles bresennol yn dod i ben ym mis Medi 2025, a oedd yn rhoi digon o
amser i hyrwyddo’r cyfleuster, cyflwyno gweithgareddau amgen ac ystyried
dulliau darparu gwasanaeth newydd i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyfleuster,
o ystyried y cynnydd yng nghostau darparu’r cyfleuster. Nododd y Cynghorydd
Feeley nad oedd hi nag unrhyw un arall, hyd eithaf ei gwybodaeth, wedi ystyried
cau'r cyfleuster, ond roedd angen gwneud newidiadau i wella'r cynnig ym Meifod.
Y bwriad wrth symud ymlaen oedd sicrhau fod pawb sydd â diddordeb yn derbyn y
wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag ailagor Meifod a'r cynlluniau ar gyfer
y dyfodol, gan gynnwys cysylltu â theuluoedd defnyddwyr cyfredol a darpar
ddefnyddwyr.
Diolchodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith, soniodd am drafodaethau
manwl y Pwyllgor gan gefnogi argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen ymhellach
fel yr amlinellir yn yr adroddiad i fuddsoddi yn y gwasanaeth i sicrhau ei fod
yn cael ei ailagor cyn gynted â phosibl er mwyn diogelu ei ddyfodol a darparu
ystod well o weithgareddau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â sicrhau bod y
ddarpariaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a pholisi iaith Gymraeg
y Cyngor i’r dyfodol. Roedd
hefyd yn falch iawn ei fod wedi clywed barn rhiant un o’r defnyddwyr gwasanaeth
yn y cyfarfod.
Nododd y Cabinet yr argymhellion a oedd yn adlewyrchu casgliadau’r
Pwyllgor Craffu Perfformiad ac roeddent yn falch o nodi’r adroddiad cadarnhaol
er mwyn diogelu dyfodol Meifod a’r cyfle i ddarparu ystod well o weithgareddau
i wneud y gwasanaeth yn fwy cynhwysol ac annog rhagor o bobl i ddefnyddio’r
gwasanaeth. Fel aelod lleol, siaradodd y Cynghorydd Mark
Young yn gadarnhaol am ddyfodol Meifod, ac ynghyd â‘i gyd-aelod lleol, y
Cynghorydd Rhys Thomas, gofynnodd a fyddai modd iddynt dderbyn y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynlluniau i ailagor ac
unrhyw newidiadau i'r cyfleuster yn y dyfodol, a chynigodd helpu swyddogion i
gyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd i'r dyfodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley unwaith eto eu
bwriad i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â phawb sydd â diddordeb a chysylltu â
theuluoedd defnyddwyr presennol yn ogystal â defnyddwyr y dyfodol. Mewn ymateb
i gwestiynau pellach, rhannodd y swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith
sydd angen ei gwblhau cyn ailagor y cyfleuster a sicrhawyd y byddent yn gwneud
pob ymdrech i sicrhau bod y cyfleuster yn ailagor cyn gynted â phosibl. Mewn
ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i addasu’r geiriad yn yr
argymhellion i ‘Wasanaethau Meifod’, cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn
hapus â’r argymhellion presennol yn yr adroddiad.
Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet. Er bod aelodau’n gefnogol iawn ... view the full Cofnodion text for item 6