Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet (Eitem 11)

11 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn nodi’r cyllidebau ar gyfer 2021/22 ac yn symud ymlaen yn erbyn y strategaeth gyllid a gytunwyd arni, ac

 

(b)       yn cymeradwyo addasu of Llys Anwyl, y Rhyl, i fflatiau ar gyfer rhentu cymdeithasol (fel y nodir yn Adran 6.7 yr adroddiad, ac Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelwyd gorwariant o £1.179 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol (£0.656 miliwn fis diwethaf, roedd yr amrywiant hwn yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yn y defnydd o gontractwyr allanol/cynnydd mewn prisiau deunyddiau ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol [£102,000] a goblygiadau ariannol y cynnydd mewn costau contractau ysgolion ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd [£464,000])

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt sy'n werth £2.666 miliwn o ran ffioedd ac arwystlon, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion 

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru, a 

·        rhoddwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf gyda diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet hefyd ar gyfer addasu Llys Anwyl, y Rhyl, i randai rhent cymdeithasol fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad, a darparodd y Rheolwr Datblygu Tai ragor o wybodaeth a throsolwg o’r prosiect.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo resymau dros y gorwariant ar gludiant i’r ysgol gan nodi y byddai asesiad yn cael ei chwblhau fel rhan o'r broses gyllidebu i nodi a ddylid cynnwys pwysau ar gyfer yr elfen honno wrth symud ymlaen neu beidio. Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi tynhau'r meini prawf ar gyfer cymorth ariannol drwy’r gronfa caledi, a byddai’r goblygiadau hynny’n gliriach unwaith y byddwn wedi cael gwybod am ganlyniadau ceisiadau, byddai unrhyw broblemau a gaiff eu nodi fel rhan o’r broses honno’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. O ran Ailddatblygu Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, roedd y dyfynbris cychwynnol i ddarparu Cam 1 £1.4 miliwn dros y gyllideb, ac roedd swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda'r contractwyr ar yr opsiynau dylunio manwl i leihau’r costau i fodloni’r gyllideb neu fuddsoddi ymhellach mewn cynllun gwell.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo addasu Llys Anwyl, y Rhyl yn rhandai rhent cymdeithasol (fel yr amlinellir yn Adran 6.7 o’r adroddiad ac Atodiadau 5 a 6 yn yr adroddiad)