Mater - cyfarfodydd
PROPOSED APPROACH TO TENDERING FOR PHASE 2 NEW DCC WASTE TRANSFER STATION (WTS) AT COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE, DENBIGH
Cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet (Eitem 6)
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflawni’r ymarfer tendro arfaethedig i ddewis prif gontractwr i ddarparu Cam 2 Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych.
Dogfennau ychwanegol:
- COLOMENDY PHASE 2 ITT - APPENDIX 1, Eitem 6 PDF 149 KB
- Webcast for DULL ARFAETHEDIG I DENDRO AR GYFER CONTRACT CAM 2 GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CYNGOR SIR DDINBYCH, YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) Cymeradwyo’r
ymarfer tendro arfaethedig fel y manylir yn yr adroddiad, ac yn
(b) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r
ymarfer tendro arfaethedig i ddewis prif gontractwr i ddarparu Ail Gam Gorsaf
Trosglwyddo Gwastraff newydd CSDd yn Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych.
Mae
angen Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff i gefnogi’r newid arfaethedig i gasgliadau
gwastraff aelwydydd. Mae manylion yr ymarfer caffael wedi’u nodi yn yr
adroddiad, ynghyd â gwerth amcangyfrifedig y contract o £5.2 miliwn sydd o fewn
y dyraniad cyllidebol presennol. Darparwyd
manylion caniatâd blaenorol ar gyfer agweddau gwahanol o’r newid cyffredinol
i’r gwasanaeth casglu gwastraff a manylion y broses dendro ac amlygwyd y dull
cydweithio a roddwyd ar waith a manteision y prosiect ehangach i fusnesau lleol
ar y safle. Mae’r gymeradwyaeth a geisir
yn yr adroddiad yn gam arall yn y broses i hwyluso’r newid arfaethedig i’r
gwasanaeth. Byddai dyfarnu’r contract ei hun yn destun adroddiad arall i’r
Cabinet yn dilyn y broses dendro, a fyddai hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli
contract, costau'r tendr a manylion y contract. Cynghorwyd y Cabinet fod yr
amserlenni yn yr adroddiad yn ddynodol ar hyn o bryd ac o ystyried y gwaith
sydd angen ei wneud fe all yr amserlen lithro ychydig.
Gofynnwyd
ynghylch lleddfu risgiau allweddol a nodwyd a’r posibilrwydd i ymweld â’r safle
ac amlygwyd yr angen am gynllun cyfathrebu cadarn ar gyfer trigolion ar yr adeg
gywir yn y broses. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol
a'r swyddogion i’r cwestiynau gan wneud y sylwadau canlynol:
·
Roeddynt yn hyderus y bydd
cynigion yn cael eu cyflwyno o ystyried y diddordeb sydd wedi'i ddangos eisoes
yn y broses dendro
·
Mae’r risgiau ariannol,
oherwydd eu natur, wedi’u categoreiddio yn risgiau ‘uchel’ ond mae diwydrwydd
dyladwy a gwiriadau ariannol wedi’u cynnal fel rhan o’r broses i reoli’r risg
honno
·
Mae yna bwysau yn y farchnad o
ran prisiau a deunyddiau, sydd y tu allan i reolaeth y Cyngor, ac fe all hynny
gael effaith ar bris tendrau – bydd y costau yn cael eu hadolygu yn hynny o
beth.
Nid
oes modd gwybod beth fydd effaith y pwysau hynny ar y farchnad hyd nes byddwn
wedi derbyn tendrau ond rydym ni'n ffyddiog y bydd y gyllideb ddyranedig yn
gallu cwrdd ag unrhyw gynnydd yn y pris
·
Mae’r trefniadau llywodraethu
sydd yn eu lle a gwaith y Bwrdd Prosiect i oruchwylio a monitro cynnydd a
datblygiadau yn darparu sicrwydd
·
O ran yr awgrym i drefnu
ymweliad safle ar gyfer Aelodau, cynghorodd y swyddogion y byddai gwanwyn/haf
yn adeg dda ar ôl cwblhau cam cyntaf y prosiect
·
Er nad yw’n rhan o’r adroddiad
hwn, roedd y swyddogion yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu gyda thrigolion ar
yr adeg briodol ynglŷn â gweithredu’r model gwastraff newydd, a darparwyd
sicrwydd bod cynllun cyfathrebu manwl yn cael ei ddatblygu ar gyfer hynny.
Dywedwyd
y byddai’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y
Model Gwastraff newydd, a fyddai hefyd yn gyfle iddynt drafod y mater ymhellach
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) Cymeradwyo’r ymarfer tendro fel y nodir yn yr adroddiad;
(b) Cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 1) fel rhan o’u hystyriaethau.