Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

GRAPHIC DESIGN AND PRINT FRAMEWORK DYNAMIC PURCHASING SYSTEM

Cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet (Eitem 5)

5 SYSTEM BRYNU DDEINAMIG FFRAMWAITH DYLUNIO GRAFFEG AC ARGRAFFU pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gael eu cynnwys ar y fframwaith Prynu Ddeinamig ar gyfer dylunio ac argraffu. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r rhestr o gyflenwyr sydd wedi cael eu monitro ar gyfer y Fframwaith System Brynu Ddynamig newydd fel y’i manylir yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad i geisio derbyn cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cyflenwyr i’w cynnwys ar fframwaith y System Brynu Ddeinamig newydd ar gyfer dylunio ac argraffu. Mae’r System Brynu Ddeinamig yn system ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint a gan fod y gwariant amcangyfrifedig yn fwy na £4 miliwn mae angen cymeradwyaeth y Cabinet.

 

Ar 23 Mawrth 2021 rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i hysbysebu’r fframwaith newydd hwn ar gyfer dylunio graffeg, argraffu, baneri ac arwyddion, cynllun lliwiau cerbydau ac argraffu arbenigol ar draws 5 ‘lot’ caffael dros gyfnod o chwe blynedd ar y cyd â Sir y Fflint. Yn dilyn y broses werthuso ddilynol, gofynnir i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i ymrwymo i gontract gyda rhestr o gyflenwyr sydd i'w cynnwys yn y fframwaith newydd sydd wedi’i manylu arni yn yr adroddiad dan y 5 ‘lot’ caffael.

 

Dywedwyd fod modd ychwanegu at y rhestr fel y bo’n briodol yn ystod y chwe blynedd, yn dilyn proses ymgeisio a gwerthuso. Cadarnhawyd fod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Tîm Datblygu Busnes ac Economaidd, a’r tîm cyfatebol yn Sir y Fflint, i ymgysylltu gyda chwmnïau lleol er mwyn eu cynnwys yn y fframwaith newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo rhestr cyflenwyr fframwaith y System Brynu Ddeinamig newydd, sydd wedi’u gwerthuso ac a fanylir arnynt yn yr adroddiad.