Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet (Eitem 8)

8 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 314 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal a Chadw Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (a fanylir arno yn Adran 6.7 o’r adroddiad ac Atodiadau 5, 6 a 7 o’r adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad sy’n manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol gytunedig fel yr amlinellir isod –

 

·        Mae’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 yn £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21)

·        Rhagwelir gorwariant o £0.656 miliwn yn y cyllidebau gwasanaeth a corfforaethol

·        Ceir gwerth £4.448 miliwn o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd cytunedig yn ymwneud â ffioedd, arbedion gweithredol, newidiadau mewn darparu gwasanaethau ac ysgolion

·        Amlygir risgiau presennol a thybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion, ynghyd ag effaith y coronafeirws a sefyllfa’r hawliadau ariannol i Lywodraethu Cymru

·        Diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf, a diweddariad ar brosiectau mawr

 

Gofynnir hefyd i’r Cabinet gymeradwyo defnyddio’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion, a ddyfarnwyd i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, yn unol ag argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid y rhesymeg y tu ôl i’r gymeradwyaeth a geisir. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i’w wario yn ystod y flwyddyn sy’n golygu bod modd i’r Cyngor gario arian sydd wedi’i glustnodi ar gyfer ysgolion ymlaen fel tanwariant. Mae’r rhestr o waith wedi’i flaenoriaethu wedi’i chytuno arni gyda'r Gwasanaeth Addysg, mewn ymgynghoriad ag ysgolion, a'r Gwasanaethau Eiddo.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)       Cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion, a ddyfarnwyd i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, yn unol ag argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol (a nodir yn Adran 6.7 yr adroddiad ac Atodiadau 5, 6 a 5 yr adroddiad).