Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DENBIGHSHIRE LEARNING DISABILITY SUPPORTED LIVING SCHEMES - TEMPORARY EXTENSION TO AND RETENDERING OF EXISTING CONTRACTS

Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (Eitem 11)

11 CYNLLUNIAU BYW Â CHYMORTH ANABLEDDAU DYSGU SIR DDINBYCH - ESTYNIAD DROS DRO I AC AIL-DENDRO CONTRACTAU SY’N BODOLI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro contractau a’r broses ar gyfer ail-dendro contractau mewn perthynas â Chynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno estyniadau dros dro i 35 o gontractau Byw â Chymorth anabledd dysgu am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2023 a chymeradwyo'r broses o gynnal tendrau bychain ar gyfer 41 o gontractau o dan Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth (mae manylion yr amserlen arfaethedig a manylion contract wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro i gontractau a’r broses ar gyfer ail-dendro contractau mewn perthynas â Chynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych.

                                 

Roedd y Cabinet eisoes wedi cymeradwyo estyniad i’r contractau fel trefniant dros dro i aros am ddatblygiad Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth ond oherwydd oedi, yn cynnwys effaith Covid-19, nid oedd y gwaith wedi mynd yn ei flaen mor gyflym â’r disgwyl. O’r herwydd, ceisiwyd cymeradwyaeth am estyniad pellach i’r 35 contract hyd at 31 Mawrth 2023 fan bellaf ynghyd â’r broses at gyfer tendrau bychain ar gyfer 41 contract. Roedd yr adroddiad yn cynnwys costau manwl yn cynnwys yr amserlen arfaethedig a manylion y contract. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wybod am yr arfer presennol o gwblhau’r ffurflenni angenrheidiol yn defnyddio llofnodwyr digidol gyda thrywydd e-bost fel tystiolaeth o awdurdodiad.  Cytunodd i ofyn am i enwau swyddogion gael eu teipio dan y llofnodwr er tryloywder.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno estyniadau dros dro i 35 o gontractau Byw â Chymorth anabledd dysgu am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2023 a chymeradwyo'r broses o gynnal tendrau bychain ar gyfer 41 o gontractau o dan Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth (mae manylion yr amserlen arfaethedig a manylion contract wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad).

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 am.