Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

CONSTRUCTION OF 15 APARTMENTS FOR SOCIAL RENT AT THE DELL, PRESTATYN - CONTRACT AWARD

Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (Eitem 8)

8 ADEILADU 15 RHANDY AR GYFER RHENT CYMDEITHASOL YN Y DELL, PRESTATYN – DYFARNU CONTRACT pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu'r contract i adeiladu 15 rhandy ar gyfer rhent cymdeithasol yn y Dell ym Mhrestatyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      Cymeradwyo dyfarnu’r contract i RL Davies & Sons Limited yn ôl Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (oedd yn cynnwys atodiad cyfrinachol gyda manylion yr ymarfer gwerthuso) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i godi 15 rhandy rhent cymdeithasol yn y Dell ym Mhrestatyn.

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo adeiladu rhandai yn y Dell ym Mhrestatyn ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd yr adroddiad yn crynhoi’r broses a gynhaliwyd yn ystod yr ymarfer caffael oedd wedi arwain at gyflwyno pedwar tendr. Yn dilyn ymarfer gwerthuso gan ddefnyddio methodoleg sgorio gyda phwysoliad o 70% ar gyfer y pris a 30% ar gyfer ansawdd, dewiswyd contractwr a’i argymell i’r Cabinet.  Cyfanswm amcangyfrif o’r gost a gyflwynodd y cynigiwr a argymhellwyd oedd £3,021,361.96 oedd o fewn y gyllideb ar gyfer y prosiect yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai. Nodwyd yr oedi gyda’r datblygiad oherwydd y pandemig coronafeirws.

 

Roedd y Cabinet yn llwyr gefnogi’r datblygiad, fyddai’n helpu i ymdrin â’r angen am dai a chyfrannu at Flaenoriaeth Gorfforaethol y Cyngor i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn tŷ sy’n bodloni eu hanghenion, a’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol drwy adeiladu eiddo carbon isel.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo dyfarnu’r contract i RL Davies & Sons Limited yn ôl Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.