Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ANNUAL TREASURY MANAGEMENT REPORT 2020/21

Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (Eitem 6)

6 ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2020/21 pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2020/21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2020/21 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2020/21 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac sy’n dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2020/21.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd rheoli’r trysorlys, a’r cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.  Amlygodd y prif bwyntiau ar gyfer aelodau yn nhermau gweithgareddau benthyca a buddsoddi a chadarnhaodd eu bod yn cydymffurfio â phob dangosydd darbodus a nodwyd, gan fynd â’r aelodau drwy'r dangosyddion hynny fel y manylir yn Atodiad B gan gadarnhau cymarebau addas o ariannu costau a lefelau benthyca o fewn terfynau. Nodwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod wedi derbyn yr adroddiad.  Diben yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd o ran gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd y Pennaeth Cyllid i gwestiynau am y swyddogaeth rheoli’r trysorlys yn y dyfodol.  Oherwydd bod y Cyngor yn awdurdod benthyca roedd y swyddogaeth rheoli trysorlys yn canolbwyntio ar y cydbwysedd rhwng ariannu uchelgeisiau cyfalaf a sicrhau llif arian digonol i dalu cyflogau a chyflenwyr. O ran cyfraddau llog, nid oedd arwydd y byddent yn cynyddu sy’n golygu y byddai cyfraddau llog benthyca yn parhau’n isel a byddai angen gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch beth oedd yn fforddiadwy, gan gynnal y cydbwysedd rhwng darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd a buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf. O ran casgliadau’r Asesiad o Effaith ar Les, roedd y Cynghorydd Mark Young yn teimlo nad oedd y sgôr ar gyfer cynaliadwyedd (2 seren allan o 4), yn cynnwys carbon isel a bioamrywiaeth, yn adlewyrchu’n gywir y gwaith caled oedd wedi’i wneud.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid y rhesymeg y tu ôl i’r fethodoleg sgorio a bod agwedd ofalus wedi’i chymryd, ac er bod y swyddogaeth rheoli trysorlys yn hwyluso prosiectau penodol, roedd yr asesiadau unigol ar gyfer y prosiectau penodol hynny wedi cynnwys y cyfeiriadau hynny. Fodd bynnag, cytunwyd i adolygu’r dull yn ystod y broses asesu nesaf yn sgil sylwadau'r Cynghorydd Young.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y gellid cael sicrwydd o’r adroddiad gan ailadrodd y cydbwysedd ariannol rhwng delio â swyddogaethau craidd a phwysau sy’n codi ag uchelgeisiau’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y gwaith sy’n dechrau ar ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol newydd a’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Credai, er y dylai’r Cyngor gadw ei uchelgeisiau, fod rhaid iddynt fod yn fforddiadwy i sicrhau bod swyddogaethau craidd a phwysau cysylltiedig yn cael eu hariannu’n briodol.  Rhoddodd deyrnged hefyd i’r gwaith agos rhwng yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid, a staff cyllid am yr holl waith a wnaed sy’n rhoi sicrwydd a hyder yn rheolaeth ariannol y Cyngor. Cytunodd yr Arweinydd â hyn gan gydnabod gwaith y tîm cyllid.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2020/21 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2020/21 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.