Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

STRATEGY FOR THE PREVENTION AND DETECTION OF FRAUD, CORRUPTION AND BRIBERY AND THE FRAUD RESPONSE PLAN

Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (Eitem 5)

5 STRATEGAETH AR GYFER ATAL A CHANFOD TWYLL, LLYGREDIGAETH A LLWGRWOBRWYAETH A’R CYNLLUN YMATEB I DWYLL pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r Strategaeth ddiwygiedig a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Atal a Chanfod Twyll, Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig a darparu cymorth i sicrhau bod y mesurau yn cael eu sefydlu ar draws y sefydliad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y Strategaeth ddiwygiedig ar Atal a Chanfod Twyll a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig. Cafodd y Strategaeth a’r Cynllun eu hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf 2021 a argymhellodd i’r Cabinet eu mabwysiadu.

 

Roedd y Strategaeth a’r Cynllun yn ffurfio rhan o fframwaith gwrth-dwyll y Cyngor, casgliad o bolisïau a gweithdrefnau cydberthnasol sy’n cynnwys y Cod Ymddygiad, Rheoliadau Ariannol a’r Polisi Rhannu Pryderon. Roedd yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau wedi’u targedu’n benodol at atal twyll a llygredigaeth ac yn darparu offeryn rheoli i sicrhau cynnydd a thryloywder o ran gweithgareddau gwrth-dwyll. Amlinellwyd pwysigrwydd cadw strategaethau a chynlluniau gwrth-dwyll cyfredol i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau.  Er nad oedd gofyniad i gyflwyno’r dogfennau er cymeradwyaeth y Cabinet, ystyriwyd y byddai hyn o fudd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r mater.

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd y Strategaeth a’r Cynllun ac roeddent yn awyddus i glywed mwy am y cynlluniau i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth yn fewnol ac allanol a sut byddai canlyniadau’n cael eu monitro a’u gwerthuso.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion bod codi ymwybyddiaeth yn digwydd drwy brosesau democrataidd y Cyngor a chyhoeddi’r Strategaeth a’r Cynllun ar wefan y Cyngor. Os bydd y Cabinet o blaid cymeradwyo'r dogfennau, gallai'r Aelod Arweiniol drefnu iddynt gael eu dosbarthu i bob aelod fel bo’n briodol. Roedd modiwl e-ddysgu i staff yn cael ei ddatblygu gyda chynlluniau i’w ehangu i aelodau, yn benodol ar gyfer y Cyngor newydd y dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022 er mwyn codi ymwybyddiaeth yn gynnar. Ar gyfer partneriaid strategol allweddol, goruchwyliwyd y trefniadau hynny fel rhan o waith archwilio mewnol gyda phwyslais ar fesurau gwrth-dwyll. Roedd pecyn gwaith partneriaeth hefyd oedd angen hunanasesiad blynyddol ar agweddau fel monitro ariannol, llywodraethu a chydymffurfio; cadarnhawyd y byddai Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig  yn ymwybodol o’r trefniadau oedd ar waith.  O ran rhannu pryderon, roedd y polisi wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar ac roedd yn dal i gael ei hyrwyddo i sicrhau y gellid codi pryderon a delio â nhw’n briodol. Roedd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i fonitro gweithrediad y polisi rhannu pryderon ac ystyried canlyniadau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r Strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Atal a Chanfod Twyll, Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig a darparu cymorth i sicrhau bod y mesurau yn cael eu sefydlu ar draws y sefydliad.