Mater - cyfarfodydd
STRATEGY FOR THE PREVENTION AND DETECTION OF FRAUD, CORRUPTION AND BRIBERY AND THE FRAUD RESPONSE PLAN
Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (Eitem 5)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet o’r Strategaeth ddiwygiedig a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig.
Dogfennau ychwanegol:
- COUNTER FRAUD CORRUPTION STRATEGY - APPENDIX 1, Eitem 5 PDF 518 KB
- COUNTER FRAUD RESPONSE PLAN - APPENDIX 2, Eitem 5 PDF 356 KB
- Webcast for STRATEGAETH AR GYFER ATAL A CHANFOD TWYLL, LLYGREDIGAETH A LLWGRWOBRWYAETH A’R CYNLLUN YMATEB I DWYLL
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cefnogi’r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth a’r
Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig a darparu cymorth i sicrhau bod y mesurau
yn cael eu sefydlu ar draws y sefydliad.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet ar y Strategaeth ddiwygiedig ar Atal a Chanfod Twyll a’r Cynllun Ymateb
i Dwyll cysylltiedig. Cafodd y Strategaeth a’r Cynllun eu hystyried gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf 2021 a argymhellodd i’r
Cabinet eu mabwysiadu.
Roedd
y Strategaeth a’r Cynllun yn ffurfio rhan o fframwaith gwrth-dwyll y Cyngor,
casgliad o bolisïau a gweithdrefnau cydberthnasol sy’n cynnwys y Cod Ymddygiad,
Rheoliadau Ariannol a’r Polisi Rhannu Pryderon. Roedd
yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau wedi’u targedu’n benodol at atal twyll a
llygredigaeth ac yn darparu offeryn rheoli i sicrhau cynnydd a thryloywder o
ran gweithgareddau gwrth-dwyll. Amlinellwyd
pwysigrwydd cadw strategaethau a chynlluniau gwrth-dwyll cyfredol i sicrhau
cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau. Er nad oedd gofyniad i
gyflwyno’r dogfennau er cymeradwyaeth y Cabinet, ystyriwyd y byddai hyn o fudd
er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r mater.
Cydnabu’r
Cabinet bwysigrwydd y Strategaeth a’r Cynllun ac roeddent yn awyddus i glywed
mwy am y cynlluniau i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth yn fewnol ac allanol a
sut byddai canlyniadau’n cael eu monitro a’u gwerthuso. Dywedodd yr Aelod Arweiniol
a’r swyddogion bod codi ymwybyddiaeth yn digwydd drwy brosesau democrataidd y
Cyngor a chyhoeddi’r Strategaeth a’r Cynllun ar wefan y Cyngor. Os bydd y Cabinet o blaid cymeradwyo'r dogfennau,
gallai'r Aelod Arweiniol drefnu iddynt gael eu dosbarthu i bob aelod fel bo’n
briodol. Roedd modiwl e-ddysgu i staff yn
cael ei ddatblygu gyda chynlluniau i’w ehangu i aelodau, yn benodol ar gyfer y
Cyngor newydd y dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022 er mwyn codi ymwybyddiaeth
yn gynnar. Ar gyfer partneriaid strategol
allweddol, goruchwyliwyd y trefniadau hynny fel rhan o waith archwilio mewnol
gyda phwyslais ar fesurau gwrth-dwyll. Roedd pecyn gwaith partneriaeth hefyd
oedd angen hunanasesiad blynyddol ar agweddau fel monitro ariannol,
llywodraethu a chydymffurfio; cadarnhawyd y byddai Hamdden Sir Ddinbych
Cyfyngedig yn ymwybodol o’r trefniadau
oedd ar waith. O
ran rhannu pryderon, roedd y polisi wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar ac
roedd yn dal i gael ei hyrwyddo i sicrhau y gellid codi pryderon a delio â
nhw’n briodol. Roedd adroddiad blynyddol yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i fonitro gweithrediad
y polisi rhannu pryderon ac ystyried canlyniadau.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cefnogi’r Strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig a
darparu cymorth i sicrhau bod y mesurau yn cael eu sefydlu ar draws y sefydliad.