Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (Eitem 4)
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 (copi ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 a’u cadarnhau fel
cofnod cywir.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.
Materion yn Codi –
Eitem 5 Cynllun
Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 (tudalen 9) – Rhoddodd y Cynghorydd Brian
Jones y wybodaeth ddiweddaraf ar yr awgrym y dylai’r man llwytho newydd arfaethedig
ar Heol y Castell y tu allan i neuadd y dref fod yn adeiladwaith pantiog. Er
ymdrechu’n galed, yn dilyn ymchwiliadau a thrafodaethau technegol â
budd-ddeiliaid, darganfuwyd na fyddai’n bosibl i’r man llwytho bantio mwy
oherwydd yr effaith andwyol ar y goeden sydd ar y safle a’r angen i ailosod y
gwasanaethau cyfleustodau, fyddai’n costio’n afresymol. Fodd bynnag roedd y
cynllun cyffredinol wedi cael ei addasu pan oedd yn briodol, a byddai
Llangollen yn elwa o’r buddsoddiad a’r gwelliannau sylweddol a fyddai’n dod yn
sgil y prosiect.
Roedd y
Cynghorydd Meirick Davies wedi holi a ddylid newid y cyfeiriad at LlC
(Llywodraeth Cymru) yn yr adroddiad Cymraeg i Senedd (tudalen 11). Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wahanol rolau’r Senedd a
Llywodraeth Cymru a chytunodd i wirio’r cyd-destun priodol yn y ddogfen.
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 a’u cadarnhau fel
cofnod cywir.