Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 553562

Cyfarfod: 15/09/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 553562

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  553562.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi -

 

(i)            i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif

553562 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         i’r Ymgeisydd apelio i’r Llys Ynadon yn erbyn dirymiad ei drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ym mis Gorffennaf 2019 oherwydd trosedd glwyfol honedig. Cafodd yr achos ei gau gan Lys y Goron ym mis Hydref 2019 ac ni chafodd yr Ymgeisydd ei farnu’n euog o unrhyw drosedd;

 

(iv)         i’r Llys Ynadon gyflwyno gorchymyn cydsynio yn cytuno y dylid rhoi’r apêl o’r neilltu a chaniatáu i’r Ymgeisydd wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am drwydded newydd lle byddai'r holl faterion yn cael eu hystyried o'r newydd;

 

(v)          i wybodaeth bellach ynglŷn â’r cais yn cynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig a’r holl wiriadau arferol eraill gael eu cwblhau i safon foddhaol ynghyd â’r geirdaon a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd;

 

(vi)         ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vii)        i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r drosedd honedig, a oedd yn ei gwadu’n bendant, ynghyd â’r prosesau cyfreithiol canlynol a’r effaith niweidiol ar ei fywyd personol.  Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i adennill y drwydded a dychwelyd i’r gwaith yr oedd yn ei garu ac i ddarparu ar gyfer ei deulu.  Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau a godwyd gan aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, gan gadarnhau nad oedd wedi bod wrth ei waith pan ddigwyddodd hyn, nid oedd wedi bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiad o’r fath yn y gorffennol ac nid oedd ganddo unrhyw broblemau rheoli dicter.  Pwysleisiodd yr Ymgeisydd ei edifeirwch ynghylch y digwyddiad a darparodd sicrwydd ei fod wastad wedi bod, ac yn parhau i fod, yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded.  Yn ei ddatganiad terfynol, bu i’r Ymgeisydd annog yr aelodau i gymeradwyo ei gais er mwyn iddo allu gweithio a darparu ar gyfer ei deulu.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  553562.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor adran 4.12 o’r polisi a oedd yn nodi y byddai materion, nad oeddent wedi arwain at gollfarn droseddol, yn cael eu hystyried ac roedd unrhyw gyfeiriad mewn perthynas â “chollfarn” yn y polisi yn cynnwys materion yr oedd yr un fath ag ymddygiad troseddol ond nid oeddent wedi arwain at gollfarn, ac adran 4.31 a oedd yn nodi, o ran troseddau’n cynnwys / yn ymwneud â thrais, na fyddai trwydded yn cael ei chaniatáu nes yr oedd o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd.  Casglodd y Pwyllgor nad oedd yr Ymgeisydd wedi cael ei farnu’n euog o unrhyw drosedd (yn wir ystyriwyd bod achos troseddol Llys y Goron ar y drosedd o glwyfo wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 7