Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 553562
Cyfarfod: 15/09/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)
7 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 553562
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (7/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (7/3)
- Webcast for CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 553562
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi -
(i)
i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif
553562 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno
oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;
(iii)
i’r Ymgeisydd apelio i’r Llys Ynadon yn erbyn dirymiad ei drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ym mis Gorffennaf 2019 oherwydd trosedd
glwyfol honedig. Cafodd yr achos ei gau gan Lys y Goron ym mis Hydref 2019 ac
ni chafodd yr Ymgeisydd ei farnu’n euog o unrhyw drosedd;
(iv)
i’r Llys Ynadon gyflwyno gorchymyn cydsynio yn cytuno y dylid rhoi’r apêl
o’r neilltu a chaniatáu i’r Ymgeisydd wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am
drwydded newydd lle byddai'r holl faterion yn cael eu hystyried o'r newydd;
(v)
i wybodaeth bellach ynglŷn â’r cais yn
cynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig a’r
holl wiriadau arferol eraill gael eu cwblhau i safon foddhaol ynghyd â’r
geirdaon a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd;
(vi)
ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm ag addasrwydd ymgeiswyr, ac
(vii)
i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny.
Cadarnhaodd
yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd
y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.
Eglurodd
yr Ymgeisydd y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r drosedd honedig, a oedd yn ei
gwadu’n bendant, ynghyd â’r prosesau cyfreithiol canlynol a’r effaith niweidiol
ar ei fywyd personol. Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i
adennill y drwydded a dychwelyd i’r gwaith yr oedd yn ei garu ac i ddarparu ar
gyfer ei deulu. Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau a
godwyd gan aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, gan
gadarnhau nad oedd wedi bod wrth ei waith pan ddigwyddodd hyn, nid oedd wedi
bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiad o’r fath yn y gorffennol ac nid oedd ganddo
unrhyw broblemau rheoli dicter. Pwysleisiodd yr Ymgeisydd ei
edifeirwch ynghylch y digwyddiad a darparodd sicrwydd ei fod wastad wedi bod,
ac yn parhau i fod, yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded. Yn ei ddatganiad terfynol, bu i’r Ymgeisydd annog yr
aelodau i gymeradwyo ei gais er mwyn iddo allu gweithio a darparu ar gyfer ei
deulu.
Oedwyd
y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.
Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Roedd
yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr
oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i
atebion i gwestiynau. Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried
yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd
ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat.
Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor adran 4.12 o’r polisi a oedd yn nodi y byddai materion, nad oeddent wedi arwain at gollfarn droseddol, yn cael eu hystyried ac roedd unrhyw gyfeiriad mewn perthynas â “chollfarn” yn y polisi yn cynnwys materion yr oedd yr un fath ag ymddygiad troseddol ond nid oeddent wedi arwain at gollfarn, ac adran 4.31 a oedd yn nodi, o ran troseddau’n cynnwys / yn ymwneud â thrais, na fyddai trwydded yn cael ei chaniatáu nes yr oedd o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd. Casglodd y Pwyllgor nad oedd yr Ymgeisydd wedi cael ei farnu’n euog o unrhyw drosedd (yn wir ystyriwyd bod achos troseddol Llys y Goron ar y drosedd o glwyfo wedi ... view the full Cofnodion text for item 7