Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAME 2021/22
Cyfarfod: 15/09/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2021/22 PDF 105 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w
chymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- LC FWP - APPENDIX 1, Eitem 6
PDF 214 KB
- Webcast for RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2021/22
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar raglen
gwaith i’r dyfodol arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2021/22.
Yn y cyfarfod diwethaf, hysbyswyd yr aelodau ynghylch yr
anawsterau o ran cynnal rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor dros y
deuddeg mis diwethaf yn sgil pandemig y coronafeirws a chytunwyd bod y
swyddogion yn ailddrafftio rhaglen gwaith i'r dyfodol i’w chyflwyno yn y
cyfarfod nesaf i’w chymeradwyo. Wrth ddrafftio’r rhaglen gwaith i’r dyfodol, roedd y
swyddogion wedi ystyried polisïau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor, ynghyd â
dyddiadau adolygu’r polisïau hynny ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigir gan
lywodraeth ganolog. Dywedodd y
swyddogion bod dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol wedi cael eu cadarnhau a byddent
yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad.