Mater - cyfarfodydd
REVIEW - LICENSING ACT 2003: STATEMENT OF LICENSING POLICY
Cyfarfod: 15/09/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
5 ADOLYGIAD - DEDDF TRWYDDEDU 2003 – DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU PDF 194 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad aelodau o Ddatganiad Polisi
Trwyddedu'r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor
llawn yn dilyn hynny.
Dogfennau ychwanegol:
- STATEMENT OF LICENSING POLICY - APPENDIX, Eitem 5 PDF 815 KB
- Webcast for ADOLYGIAD - DEDDF TRWYDDEDU 2003 – DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, yn amodol ar
sylwadau’r aelodau, bod y Pwyllgor yn rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau
ymgynghori, ac -
(a) os na dderbynnir
sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad, bod datganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu yn
cael ei gyflwyno’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo, neu
(b) os y derbynnir
sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad bod y swyddogion yn adrodd yn ôl yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2021.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu Datganiad Polisi
Trwyddedu’r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor
llawn yn dilyn hynny. Roedd y polisi yn
sefydlu fframwaith lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â
cheisiadau ar gyfer caniatâd neu amrywiadau i amodau a thelerau presennol ac
roedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac adolygu’r polisi o leiaf bob pum
mlynedd.
O ystyried y manteision o bolisi cyson ar draws Gogledd
Cymru, roedd y mwyafrif o’r newidiadau arfaethedig wedi cael eu drafftio gan
chwe awdurdod trwyddedu Gogledd Cymru, ac wedi cael eu hamlygu yn goch i'r
aelodau eu hystyried. Nid oedd
newidiadau sylweddol wedi cael eu cynnig oni bai am gynnwys newidiadau
deddfwriaethol, cyfrifoldebau’r Bwrdd Iechyd, cryfhau materion yn ymwneud â
chyffuriau a chynnwys mentrau lleol.
Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys hysbysiad cyhoeddus o’r polisi
drafft ynghyd â chysylltu ag ymgyngoreion statudol a’r holl
ddeiliaid trwydded. Bu i’r swyddogion argymell bod
unrhyw sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor ond os na dderbynnir
sylwadau, dylid cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn i gymeradwyo’r polisi
drafft.
Ystyriodd y Pwyllgor y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft
a thrafod gyda swyddogion ynghylch gofynion amrywiol a chamau rhesymol yr oedd
yr awdurdod lleol yn eu disgwyl gan eiddo trwyddedig. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau’r aelodau
a sylwadau ynglŷn ag agweddau amrywiol o'r polisi ac fe wnaethant ddarparu
eglurder mewn sawl maes. Roedd prif
feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -
·
cadarnhaodd y swyddogion bod gofyniad deddfwriaethol ar bob eiddo â thrwydded i gyflenwi alcohol,
i ddarparu dŵr yfed am ddim ar gais
·
roedd yr aelodau wedi cwestiynu’r cyfeiriad arfaethedig at y ddarpariaeth o
ystafell cymorth cyntaf a chyfarpar (yn cynnwys diffibriliwr mewn lleoliadau
mwy) ac a oedd angen ei gynnwys yn y polisi o ystyried bod hyn yn gyfrifoldeb
ar yr eiddo trwyddedig ac nid yr awdurdod trwyddedu.
Cadarnhaodd y swyddogion y
byddai unrhyw ofyniad i ddarparu cyfleusterau cymorth cyntaf yn cael ei
benderfynu o fewn yr asesiadau risg a gynhaliwyd gan yr eiddo trwyddedig a
hefyd yn ystyried y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Fodd bynnag, roedd y briodol bod y polisi’n
ystyried rheoli'r eiddo trwyddedig yn ei gyfanrwydd ac i annog cynnal pob cam
rhesymol. Nid oedd amodau penodol ar
gyfer eiddo trwyddedig wedi cael eu cynnig o ran darpariaethau cymorth cyntaf o
ystyried mai cyfrifoldeb yr eiddo trwyddedig unigol oedd penderfynu beth oedd
yn addas iddyn nhw
·
eglurwyd y byddai yfed o boteli yn cael ei ganiatáu oni bai bod amod ar y
drwydded eiddo unigol yn gwahardd hynny a chytunodd swyddogion i ailedrych ar y
geiriad yn y polisi i sicrhau eglurder o ran hynny
·
byddai rheolyddion ynglŷn ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus / ar y
stryd yn destun Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
·
roedd atodiad 6 yn y polisi yn cyfeirio at amodau gorfodol nad oedd modd eu
newid
·
o ran disgwyliadau hyfforddiant staff, roedd pob eiddo trwyddedig yn
gyfrifol am hyfforddiant staff a byddai pob eiddo yn meddu ar ei raglen
hyfforddiant ei hun
·
er nad oedd diffiniad o ‘leoliadau mwy’, roedd disgwyl y byddai unrhyw
fesurau angenrheidiol ychwanegol, o ystyried maint y lleoliad, yn cael eu
penderfynu yn asesiad risg yr eiddo unigol
·
wrth ymateb i sylwadau ynghylch y diffyg cyfeiriad at reoliadau rheoli
adeiladu yn adran 5 y polisi, dywedodd y swyddogion fod y Gwasanaethau
Cynllunio yn ymgyngoreion statudol ac roedd ganddynt gyfle i roi mewnbwn ar yr
adolygiad polisi; cytunodd y swyddogion i ofyn am farn Rheoli Adeiladu yn
benodol o ran hynny.
· cyfeiriodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 5