Mater - cyfarfodydd
BETSI CADWALADR UNIVERSITY HEALTH BOARD HEART FAILURE SERVICES IN DENBIGHSHIRE AND ITS IMPACT ON THE COUNCIL'S SOCIAL CARE SERVICES
Cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 5)
Derbyn gwybodaeth ar statws
cyfredol Gwasanaethau Methiant y Galon BIPBC a ddarperir yn Sir Ddinbych a ledled Gogledd Cymru (copi ynghlwm).
10:15 – 11:00am
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Dr Gary Francis, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Eilaidd (Dros Dro)
yr adroddiad ar y cyd a baratowyd gan Phil Gilroy a Helen Wilkinson (wedi'i rannu ymlaen
llaw) a oedd yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa bresennol Gwasanaethau Methiant y
Galon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yn cael eu darparu yn Sir Ddinbych ac ar draws Gogledd Cymru.
Eglurodd Dr Francis fod rhai agweddau ar Wasanaethau Methiant y Galon BIPBC
yn y gorffennol wedi bod yn dibynnu ar ffynonellau cyllid dros dro; roedd hyn
wedi achosi peth ansicrwydd i’r cyhoedd ynglŷn â darpariaeth y
gwasanaethau hyn yn y dyfodol ac roedd wedi arwain at gais i'r Pwyllgor Craffu
ystyried ymarferoldeb y Gwasanaethau yn y dyfodol a'r effaith bosib' o ddod â
nhw i ben ar wasanaethau gofal cymdeithasol y Cyngor. Cadarnhaodd Dr Francis fod y Bwrdd Iechyd
wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau methiant y galon o fis Ebrill 2020
hyd y gellir rhagweld.
Roedd BIPBC yn llwyr gydnabod gwerth Gwasanaethau Methiant y Galon ledled
Gogledd Cymru, a byddent yn parhau i gefnogi eu datblygiad heb unrhyw
gynlluniau i leihau’r ddarpariaeth bresennol.
Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod rôl allweddol gwasanaethau iechyd yn y
gymuned i gefnogi iechyd a lles ar draws y rhanbarth, ac roedd yn eu cyfrif yn
rhan greiddiol o ddarpariaeth eu gwasanaeth.
Roedd hefyd yn cydnabod bod angen ariannu gwasanaethau o’r fath yn
ddigonol, a darparu sicrwydd tymor byr i ganolig iddynt y byddai cyllid yn cael
ei ddarparu.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –
·
O ran
yr heriau oedd yn deillio o ofal yn y gymuned, gofynnwyd a allai
mwy o wybodaeth gael ei rhannu gyda gofalwyr pan oedd cleifion yn cael eu
rhyddhau o ysbytai. Roedd BIPBC yn
cydnabod yr heriau wrth ddarparu gofal yn y gymuned. Roedd ar hyn o bryd yn gweithio ar welliannau
gyda gwasanaethau gofal yn y gymuned ac roedd yn awyddus i glywed barn gofalwyr
ynglŷn â sut y gallai'r gwasanaethau gael eu
gwella.
·
Roedd
y Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod rhai achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion o
ysbytai, ond roedd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unrhyw oedi, ond y
flaenoriaeth fwyaf fyddai sicrhau diogelwch a lles y claf/unigolyn dan sylw.
·
Gofynnwyd faint o gyllid fyddai ar gael ar gyfer
Gwasanaeth Methiant y Galon ac am ba hyd y byddai’r cyllid ar gael. Dywedodd cynrychiolwyr BIPBC y byddai’r
cyllid ar gael cyhyd ag oedd y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu’n diwallu
anghenion y gymuned a'u bod y ffordd orau oedd ar gael i ddarparu'r
gwasanaethau hynny'n ymarferol. Gallai datblygiadau meddygol yn y dyfodol
olygu bod angen adolygu a newid y ffordd o ddarparu'r gwasanaethau.
Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr BIPBC am ddod i’r cyfarfod. Cadarnhaodd fod y manylion oedd wedi'u
darparu yn yr adroddiad ac wedi'u cyflwyno gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn
y cyfarfod wedi lleddfu pryderon a godwyd yn flaenorol pan ofynnwyd am graffu
ar y mater.
Felly:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y wybodaeth a ddarparwyd a
(i)
chroesawu’r
sicrwydd a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr mewn perthynas â'r cyllid presennol a
thymor canolig ar gyfer Gwasanaethau Methiant y Galon yn Sir Ddinbych; a
(ii) chydnabyddiaeth y Bwrdd Iechyd i
bwysigrwydd gwasanaethau iechyd yn y gymuned a’r angen am eu hariannu a’u
cefnogi’n ddigonol.