Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Waith Archwilio
Cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 7)
7 RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 239 KB
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
12:00pm – 12:15pm
Dogfennau ychwanegol:
- Partnerships FWP - App 1[1], Eitem 7 PDF 328 KB
- Work Programme Report - App 2E, Eitem 7 PDF 277 KB
- Work Programme Report - App 3, Eitem 7 PDF 284 KB
- Work Programme Report - App 4, Eitem 7 PDF 258 KB
- Webcast for RHAGLEN WAITH CRAFFU
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (wedi’i rannu ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn
â materion perthnasol.
·
Roedd
swyddogion yn parhau i ddisgwyl am gadarnhad gan y Bwrdd Iechyd ynglŷn â
phryd fyddai ei gynrychiolwyr mewn sefyllfa i ddod i gyfarfod i drafod ei
gynlluniau ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych. Roedd y Bwrdd Iechyd yn disgwyl am ragor o
wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phrosiect Ysbyty Cymuned Gogledd
Sir Ddinbych.
·
Cyfarfod 16 Medi 2021 – byddai Adroddiad Blynyddol y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gael i graffu arno. Hefyd, roedd gan Gyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych Brif Weithredwr newydd oedd
wedi dweud y byddai’n croesawu cyfle i drafod ei weledigaeth a’i gynlluniau ar
gyfer y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol gyda’r Pwyllgor, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd
i weithio gyda’r Cyngor yn y dyfodol.
·
Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
wedi mynegi ei fod yn dymuno i’r Pwyllgor drafod Ardrethi Annomestig
Cenedlaethol a’u heffaith bosib’ ar ymarferoldeb manwerthu yng nghanol y
dref. Roedd rhagor o wybodaeth yn cael
ei chasglu mewn perthynas â'r pwnc hwn cyn gallu ei
roi ar raglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.
Felly:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau a'r pethau i’w cynnwys uchod, cymeradwyo rhaglen
gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.