Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ANNUAL PERFORMANCE REVIEW 2020 TO 2021

Cyfarfod: 29/06/2021 - Cabinet (Eitem 7)

7 ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 - 2021 pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn ddarostyngedig i newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2020 i 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Aethpwyd drwy’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol sydd wedi'i ymestyn i gyfuno nifer o adroddiadau a oedd yn cael eu hadrodd ar wahân yn y gorffennol, gan gwrdd â gofynion y Cyngor dan nifer o ddeddfwriaethau, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno gwerthusiad ôl-weithredol ar lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei gynlluniau yn ystod 2020-2021 ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gellir ei gyflawni yn 2021-2022. Roedd yn cynnwys y cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol, gan gynnwys y statws presennol a llwyddiant y rhaglen. Roedd y Gofrestr Prosiectau a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol hefyd wedi’u cynnwys.  Roedd yr Adolygiad wedi’i ystyried gan Bwyllgor Craffu Perfformiad a oedd wedi gofyn am fanylion costau cynllun unigol yn rhan cyllid yr adroddiad yn ymwneud â Phriffyrdd ac Addysg ac roedd y gwariant yn cael ei gasglu ar hyn o bryd.

 

Darparodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol drosolwg o’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau a darparodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad drosolwg o’r adran iechyd corfforaethol newydd sydd yn yr adroddiad er mwyn bodloni’r gofynion i hunanasesu dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Ystyriodd y Cabinet yr Adolygiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Nododd yr Arweinydd bod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol yn fwriadol ac roedd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed, wrth gydnabod bod rhai blaenoriaethau, fel cysylltedd digidol, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.   

O ran yr adran iechyd corfforaethol newydd yn yr adroddiad, pwysleisiodd bod angen cydbwyso’r elfen yn briodol yn erbyn darpariaeth y blaenoriaethau hynny a oedd yn seiliedig ar ymgysylltu â phreswylwyr a'u disgwyliadau.   Cytunodd y swyddogion gan gadarnhau bod yr amcanion perfformiad wedi’u gosod mewn lleoliad blaenllaw yn y ddogfen yn fwriadol.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at y Cynllun Adsefydlu Pobl Ddiamddiffyn o Syria a chefnogaeth y  Cabinet i barhau i gefnogi ffoaduriaid drwy’r Rhaglen Adsefydlu Fyd-eang - o ystyried y pryderon ynglŷn â chael mynediad at ofal iechyd a thai o safon gofynnodd bod y materion hynny’n cael eu cynnwys yn yr Adolygiad hefyd er mwyn nodi’r ymateb i’r pryderon hynny.   

Cytunodd y swyddogion i adolygu’r geiriad fel y gofynnwyd ond nodwyd bod rhai materion y tu hwnt i reolaeth y Cyngor er y gallai'r Cyngor ystyried annog sefydliadau eraill i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

·        er bod tai gofal ychwanegol Rhuthun wedi profi rhai rhwystrau gyda heriau o ran trefnu contractwr, ar y cyfan roedd hyder y byddai’r prosiect yn symud ymlaen o fewn amserlen y Cynllun Corfforaethol cyfredol.

·        mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts tynnwyd sylw at y ffigyrau trais domestig oedd yn dangos cynnydd yn y nifer cronnus ail-ddioddefwyr trais domestig yn Sir Ddinbych, o 517 i 515 yn Chwarter 4 (cynnydd o 7.6% o'r flwyddyn flaenorol).   

Nodwyd faint o waith a  wnaed yn y maes o ran cynyddu ymwybyddiaeth ac ati, ac felly disgwylir newid mewn ffigyrau ac mae'n debyg bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith ar droseddau domestig.   Er nad oedd ganddo fanylion y ffigyrau trais domestig wrth law, eglurodd y Cynghorydd Mark Young fod ei adroddiad chwarterol i’r aelodau yn darparu dadansoddiad o’r ffigyrau a byddai’n ei ail-anfon at yr aelodau.

·        roedd y Cyngor yn gweithio’n rhanbarthol o ran cyllid gofal cymdeithasol ac roedd y ffioedd yn seiliedig ar y farchnad ac wedi cynyddu dros amser ac yn uwch na chwyddiant.   

Roedd yn faes oedd yn cael ei ystyried ond roedd yn ddibynnol iawn  ...  view the full Cofnodion text for item 7