Mater - cyfarfodydd
ANNUAL PERFORMANCE REVIEW 2020 TO 2021
Cyfarfod: 29/06/2021 - Cabinet (Eitem 7)
7 ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 - 2021 PDF 215 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno
i’r Cyngor i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix - Annual Performance Review 2020 to 2021, Eitem 7 PDF 709 KB
- Webcast for ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 - 2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, yn
ddarostyngedig i newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cabinet yn cadarnhau
cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2020 i 2021.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad
Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.
Aethpwyd drwy’r
Adolygiad Perfformiad Blynyddol sydd wedi'i ymestyn i gyfuno nifer o
adroddiadau a oedd yn cael eu hadrodd ar wahân yn y gorffennol, gan gwrdd â
gofynion y Cyngor dan nifer o ddeddfwriaethau, gan gynnwys Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno gwerthusiad
ôl-weithredol ar lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei gynlluniau yn
ystod 2020-2021 ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gellir ei gyflawni yn
2021-2022. Roedd yn cynnwys y cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau
corfforaethol, gan gynnwys y statws presennol a llwyddiant y rhaglen. Roedd y
Gofrestr Prosiectau a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol hefyd wedi’u
cynnwys. Roedd yr Adolygiad wedi’i
ystyried gan Bwyllgor Craffu Perfformiad a oedd wedi gofyn am fanylion costau
cynllun unigol yn rhan cyllid yr adroddiad yn ymwneud â Phriffyrdd ac Addysg ac
roedd y gwariant yn cael ei gasglu ar hyn o bryd.
Darparodd
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol drosolwg o’r cynnydd yn erbyn y
blaenoriaethau a darparodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad
drosolwg o’r adran iechyd corfforaethol newydd sydd yn yr adroddiad er mwyn
bodloni’r gofynion i hunanasesu dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021.
Ystyriodd y
Cabinet yr Adolygiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -
·
Nododd yr
Arweinydd bod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol yn
fwriadol ac roedd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed, wrth gydnabod bod rhai
blaenoriaethau, fel cysylltedd digidol, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
O ran yr
adran iechyd corfforaethol newydd yn yr adroddiad, pwysleisiodd bod angen
cydbwyso’r elfen yn briodol yn erbyn darpariaeth y blaenoriaethau hynny a oedd
yn seiliedig ar ymgysylltu â phreswylwyr a'u disgwyliadau. Cytunodd y swyddogion gan gadarnhau bod yr
amcanion perfformiad wedi’u gosod mewn lleoliad blaenllaw yn y ddogfen yn
fwriadol.
·
Cyfeiriodd y
Cynghorydd Mark Young at y Cynllun Adsefydlu Pobl Ddiamddiffyn o Syria a
chefnogaeth y Cabinet i barhau i gefnogi
ffoaduriaid drwy’r Rhaglen Adsefydlu Fyd-eang - o ystyried y pryderon
ynglŷn â chael mynediad at ofal iechyd a thai o safon gofynnodd bod y
materion hynny’n cael eu cynnwys yn yr Adolygiad hefyd er mwyn nodi’r ymateb
i’r pryderon hynny.
Cytunodd y
swyddogion i adolygu’r geiriad fel y gofynnwyd ond nodwyd bod rhai materion y
tu hwnt i reolaeth y Cyngor er y gallai'r Cyngor ystyried annog sefydliadau
eraill i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.
·
er
bod tai gofal ychwanegol Rhuthun wedi profi rhai rhwystrau gyda heriau o ran
trefnu contractwr, ar y cyfan roedd hyder y byddai’r prosiect yn symud ymlaen o
fewn amserlen y Cynllun Corfforaethol cyfredol.
·
mewn
ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts tynnwyd sylw at y
ffigyrau trais domestig oedd yn dangos cynnydd yn y nifer cronnus
ail-ddioddefwyr trais domestig yn Sir Ddinbych, o 517 i 515 yn Chwarter 4
(cynnydd o 7.6% o'r flwyddyn flaenorol).
Nodwyd
faint o waith a wnaed yn y maes o ran
cynyddu ymwybyddiaeth ac ati, ac felly disgwylir newid mewn ffigyrau ac mae'n
debyg bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith ar droseddau domestig. Er nad oedd ganddo fanylion y ffigyrau trais
domestig wrth law, eglurodd y Cynghorydd Mark Young fod ei adroddiad chwarterol
i’r aelodau yn darparu dadansoddiad o’r ffigyrau a byddai’n ei ail-anfon at yr
aelodau.
·
roedd
y Cyngor yn gweithio’n rhanbarthol o ran cyllid gofal cymdeithasol ac roedd y
ffioedd yn seiliedig ar y farchnad ac wedi cynyddu dros amser ac yn uwch na
chwyddiant.
Roedd yn faes oedd yn cael ei ystyried ond roedd yn ddibynnol iawn ... view the full Cofnodion text for item 7