Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET

Cyfarfod: 29/06/2021 - Cabinet (Eitem 9)

9 RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 283 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd yr Aelodau’r diddordeb tebygol gan y Cyhoedd yn eitem Llangollen 2020 a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf a holodd y Cynghorydd Brian Jones a fyddai’n bosibl cyfarfod yn Siambr y Cyngor er mwyn hwyluso’r eitem honno’n well.   Cadarnhawyd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ond byddai’r sefyllfa’n cael ei hadolygu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ar y pryd a chyngor diweddaraf LlC.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am.