Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 29/06/2021 - Cabinet (Eitem 3)
MATERION BRYS
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19.
Cofnodion:
Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau,
drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19 yn Sir Ddinbych. O ganol mis Mehefin roedd Cymru wedi gweld
cynnydd mewn achosion a chyfraddau positif.
Roedd Lloegr eisoes wedi gweld sawl wythnos o gynnydd cyflym ac fel
gyda’r ddwy don arall o'r coronafeirws, roedd Cymru oddeutu pythefnos ar eu
holau. Roedd y cynnydd uchaf ymysg pobl
ifanc nad oeddent wedi derbyn eu brechlyn eto ac yn cymdeithasu mwy yn
gyffredinol. Nid oedd yn eglur faint yr
oedd y rhaglen frechu wedi torri’r cysylltiad rhwng yr haint, derbyn i’r ysbyty
a marwolaeth a byddai oddeutu 2/3 wythnos cyn y gellir gwybod taflwybr y
feirws. Cyfradd achosion wythnosol Sir
Ddinbych oedd 104.5 fesul 100,000 o’r boblogaeth (cynnydd o 27% o’r wythnos
flaenorol) ac yn uwch na chyfartaledd Cymru o 53.1, gyda phump allan o chwech o
awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru. Roedd Sir Ddinbych wedi dechrau gweld
cynnydd mewn achosion positif mewn cartrefi gofal ac ysgolion a disgwylir i hyn
barhau ac oherwydd oedi mewn data disgwylir bod y ffigyrau diweddar yn is na’r
sefyllfa bresennol mewn gwirionedd.
Byddai'r aelodau’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa.