Mater - cyfarfodydd
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU
Cyfarfod: 23/06/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU
Cael diweddariad
ar lafar gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
a nodi’r diweddariad ar lafar a chyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol i gyfarfod
nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo.
Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ddiweddariad
ar lafar gan egluro’r anawsterau wrth gynnal rhaglen gwaith i'r dyfodol i’r
Pwyllgor dros y deuddeng mis diwethaf oherwydd effaith y pandemig Coronafeirws,
a’r ymdrechion i ymateb iddo. Yn dilyn
hynny, argymhellwyd y dylai’r swyddogion ailddrafftio’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol i gynnwys nifer o eitemau pwysig mewn perthynas â thacsis (gan gynnwys
unrhyw fentrau anogaeth ar gyfer cerbydau trydan neu gynlluniau a fyddai’n dod
i’r amlwg) a’r polisi ar fasnachu ar y stryd, ynghyd â nifer o adolygiadau llai
oedd eu hangen, a chyflwyno rhaglen ffurfiol o waith i’r dyfodol i gyfarfod
nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo.
PENDERFYNWYD
derbyn a nodi’r diweddariad ar lafar a bod rhaglen ffurfiol o waith i'r dyfodol
yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo.