Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE LICENSING POLICY AND CONDITIONS

Cyfarfod: 23/06/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 ADOLYGIAD O BOLISI AC AMODAU TRWYDDEDU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol yn ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr a chymeradwyaeth ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar ddatganiad drafft o Bolisi Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn -

 

 (a)      cymeradwyo’r adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol sy’n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat yn unol â Safonau Statudol newydd yr Adran Gludiant ac Argymhellion Cysoni Trwyddedu Tacsi a Cherbydau Hurio Preifat, a

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i ymgynghori gyda’r fasnach a’r cyhoedd ehangach (gan gynnwys sefydliadau lleol perthnasol) ar ddatganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu’r Polisi a’r Amodau cyfredol ar Drwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i gynnwys y safonau statudol a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth a’r argymhellion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y Polisi Trwyddedu drafft.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â chyhoeddi safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth ym mis Gorffennaf 2020 (Atodiad A i’r adroddiad) gan ganolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn a rheoleiddio’r sector yn well ynghyd â chyhoeddi argymhellion Llywodraeth Cymru (LlC) ym mis Mawrth 2021 (Atodiad B i’r adroddiad) i ddarparu ‘atebion cyflym’ i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd.  O ran awdurdod deddfwriaethol, eglurwyd bod safonau’r Adran Drafnidiaeth yn effeithiol yng Nghymru er bod cyfrifoldeb am bolisi tacsis a cherbydau hurio preifat wedi’i ddatganoli i LlC.  Fodd bynnag, pe bai LlC yn cyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio’r materion hynny, ni fyddai safonau’r Adran Drafnidiaeth yn weithredol mwyach.  Gan fod safonau’r Adran Drafnidiaeth wedi’u hystyried wrth ddrafftio argymhellion LlC, cynigiwyd y dylai’r Polisi a’r Amodau Trwyddedu gynnwys yr holl bolisïau ac amodau ategol eraill sy'n ymwneud â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, ac y dylid cynnal ymgynghoriad pedair wythnos ar y drafft hwnnw ac i'r polisi terfynol gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w gymeradwyo.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnwyd am farn y swyddogion am y dogfennau cynhwysfawr.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses ymgynghori arfaethedig gyda’r nod o ennyn cymaint o ymateb â phosib’ gan y diwydiant trwyddedig a budd-ddeiliaid a sicrhau bod dealltwriaeth dda o effaith unrhyw newidiadau posib' i'r polisi cyfredol.  Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r polisi, gan eu bod wedi’u bwriadu i wella diogelwch y cyhoedd, gwella cysondeb a gwella’r profiad i gwsmeriaid.  Roedd nifer o argymhellion LlC wedi’u cynnwys eisoes ym mholisi cyfredol y Cyngor.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r prif newidiadau polisi’n cael eu hamlygu yn ystod yr ymgynghoriad, ond roedd hefyd yn bwysig i'r rhai oedd yn cael eu heffeithio allu gweld a deall y ddogfen gyfan a deall unrhyw oblygiadau yn ei sgil.  Rhoddwyd manylion am yr ymgynghoriad a fyddai’n cynnwys y diwydiant trwyddedig, grwpiau perthnasol, Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a’r cyhoedd yn ehangach.  Byddai’n cael ei gynnal yn fras yn unol ag ymgynghoriadau blaenorol (ymgynghoriad ysgrifenedig a sesiynau gweithdai'n cael eu cynnwys ar wahanol adegau mewn gwahanol leoliadau daearyddol o fewn y Sir) cyhyd â bod hynny'n ddiogel o safbwynt Covid, a byddai gwahoddiad i unrhyw un oedd â diddordeb neu gysylltiad gymryd rhan.  Byddai’r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried i ddylanwadu ar y polisi terfynol i’w gyflwyno i’r Pwyllgor i gael ei gymeradwyo.  Cytunodd y swyddogion i ddarparu crynodeb i’r aelodau o’r ymatebion i'r ymgynghoriad a’r adborth a gafwyd yn rhan o’r broses.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn –

 

 (a)      cymeradwyo’r adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol sy’n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsis) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat yn unol â Safonau Statudol newydd yr Adran Drafnidiaeth ac Argymhellion Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat Llywodraeth Cymru, ac

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i ymgynghori gyda’r diwydiant a’r cyhoedd yn ehangach (gan gynnwys sefydliadau lleol perthnasol) ar ddatganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu.