Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 551134

Cyfarfod: 23/06/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)

11 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 551134

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 551134.

11.00 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  551134.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) wedi –

 

(i)            i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif

551134 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         i’r Ymgeisydd gael 8 o bwyntiau cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA am oryrru ym mis Gorffennaf 2018 (3 phwynt)  a Gorffennaf 2019 (5 pwynt) a chael collfarn am Gynllwynio/Trin Nwyddau wedi’u Dwyn yn 2010, a oedd i gyd wedi’u datgan gan yr Ymgeisydd a’u cadarnhau yn dilyn y gwiriadau arferol;

 

(iv)         i ragor o wybodaeth gael ei derbyn ynglŷn â’r achos, gan gynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig gydag awdurdod lleol arall ynghyd â’i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig a geirdaon (wedi’u hatodi i’r adroddiad);

 

(v)          ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr; ac

 

(vi)         i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Darparodd yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndir a'r rhesymau y tu ôl i'w gais ar ôl symud i'r ardal.  Fe wnaeth hefyd ddarparu manylion ei gyflogaeth ar hyn o bryd, fel gyrrwr trwyddedig ag awdurdod lleol arall, a soniodd am y gwaith roedd yn ei wneud yn Sir Ddinbych o ran contractau ysgol a hurio preifat.  Rhoddodd yr Ymgeisydd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad wrth yrru a chyfeiriodd at ei eirdaon a oedd yn brawf o’i gymeriad.  Fe wnaeth hefyd ateb cwestiynau a ofynnwyd gan yr aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, a darparu mwy o eglurhad ynglŷn â'i drefniadau gwaith ar hyn o bryd rhwng ardaloedd awdurdodau lleol a manylu ar yr amgylchiadau oedd ynghlwm â'r troseddau goryrru.  Cadarnhaodd nad oedd unrhyw bwyntiau cosb eraill i ddod ar ei drwydded a dywedodd ei fod yn fwy gwyliadwrus ar ôl cael y gosb am oryrru a’i fod yn ymddwyn yn ddiogel wrth yrru.  Dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth arall i’w ychwanegu at ei gais. 

 

Fe giliodd y Pwyllgor i ystyried y cais ond wrth drafod roedd angen eglurhad ynglŷn â phwynt arall ac fe alwyd pawb yn ôl.  Cadarnhaodd y swyddogion fod gwaith hurio preifat wedi’i archebu ymlaen llaw yn cael ei ganiatáu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol cyhyd â bod y gyrrwr a’r cerbyd wedi’u trwyddedu gan awdurdod lleol.  Fe giliodd y Pwyllgor eto i barhau i drafod ac yn dilyn hynny –

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  551134.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniad llafar yr Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried adrannau perthnasol polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr.

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor 4.42 yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch Addasrwydd Ymgeiswyr a Thrwyddedau yn y Masnachau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd yn datgan, lle’r oedd gan ymgeisydd 7 pwynt neu fwy ar eu trwydded DVLA am fân droseddau traffig neu debyg, na fyddai trwydded yn cael ei rhoi oni bai fod o leiaf 5 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau’r ddedfryd a roddwyd. Casglodd y Pwyllgor y byddai cwblhau'r ddedfryd (a oedd yn 4 blynedd o'r trosedd cyntaf  ...  view the full Cofnodion text for item 11