Mater - cyfarfodydd
Penodi Cadeirydd
Cyfarfod: 23/06/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 2)
PENODI CADEIRYDD
Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Cofnodion:
Gofynnwyd am enwebiadau i benodi Cadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer 2020/21. Cynigiodd y Cynghorydd Melvyn Mile y dylid penodi’r
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw
Williams. Cynigiodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Pete Prendergast yn Gadeirydd, ac
eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.
Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill, aethpwyd ati i bleidleisio ac
felly –
PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.