Mater - cyfarfodydd
NEW WELSH CURRICULUM ITEM
Cyfarfod: 10/06/2021 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 6)
6 GWEITHREDU ADRODDIAD DONALDSON ‘DYFODOL LLWYDDIANNUS’ - CWRICWLWM CYMRU PDF 316 KB
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan Arweinwyr Craidd GwE a’r Pennaeth Addysg Dros Dro (copi
ynghlwm) ar sut mae'r consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth gyda'r Awdurdod
Lleol, yn cefnogi ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd, Cwricwlwm Cymru, yn
dilyn cyhoeddi Adroddiad Donaldson ‘Dyfodol Llwyddiannus’.
10.10 am – 10.55 am
Dogfennau ychwanegol:
- Curriculum for Wales Report 100621 - APPENDIX 1, Eitem 6 PDF 1 MB
- Curriculum for Wales Report 100621 - APPENDIX 2, Eitem 6 PDF 642 KB
- Curriculum for Wales Report 100621 - APPENDIX 3, Eitem 6 PDF 1 MB
- Webcast for GWEITHREDU ADRODDIAD DONALDSON ‘DYFODOL LLWYDDIANNUS’ - CWRICWLWM CYMRU
Cofnodion:
{0><}0{>Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts (Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd) a’r Pennaeth Addysg Dros Dro, ynghyd â Mair Herbert a Jacqueline Chan
(cynrychiolwyr GwE).<0} {0><}0{>Mae GwE, fel y Gwasanaeth Rhanbarthol
Gwella Ysgolion, yn arwain ar ddatblygu a chefnogi ysgolion i weithredu
Cwricwlwm Cymru yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Donaldson – ‘Dyfodol Llwyddiannus’.<0}
{0><}0{>Cyflwynodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar sut mae’r consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, yn cefnogi ysgolion i roi’r cwricwlwm newydd ar waith, gan fanylu ar y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud er mwyn darparu sicrwydd o hynny i’r Pwyllgor.<0} {0><}0{>Cyfeiriodd at y cwricwlwm newydd fel cam cadarnhaol ymlaen ar gyfer addysgu ac at y pedwar prif nod i helpu plant a phobl ifanc i fod yn: ddysgwyr uchelgeisiol a medrus, yn fentrus a chreadigol, yn ddinasyddion moesegol a gwybodus ac yn iach a hyderus. {0><}0{>Amlygwyd effaith Covid-19 ar ysgolion a’u paratoadau i roi’r cwricwlwm newydd ar waith, ynghyd â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar lefelau amrywiol, o ysgolion unigol a chlystyrau i waith traws-sirol, rhanbarthol a chenedlaethol, er mwyn rhannu arfer orau. {0><}0{>Ychwanegodd y Pennaeth Addysg Dros Dro fod y cwricwlwm newydd yn ganolbwyntio ar ganiatáu i bob plentyn ddysgu yn y ffordd sy’n gywir iddyn nhw.<0} {0><}0{>Mae’r gwelliant a’r gefnogaeth a gynigir i ysgolion yn ceisio cefnogi pob ymarferydd, gan ganolbwyntio ar themâu allweddol yn ymwneud ag arwain, cynllunio, gweledigaeth, addysgeg a dysgu proffesiynol. {0><}0{>Mae gweithdai ymgynghorol wedi’u cynnal i sicrhau bod y cynnig gorau yn cael ei ddarparu i ysgolion, a chafwyd ymateb ac adborth cadarnhaol gan benaethiaid cynradd ac uwchradd sy’n awyddus i gydweithio a sicrhau cysondeb. {0>