Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REACTIVE MAINTENANCE FRAMEWORK FOR SCHOOLS AND NON-SCHOOLS PROPERTIES

Cyfarfod: 25/05/2021 - Cabinet (Eitem 6)

6 FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW RHAGWEITHIOL AR GYFER YSGOLION AC EIDDO NAD YDYNT YN YSGOLION pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro fframwaith cynnal a chadw rhagweithiol y Cyngor ar gyfer ysgolion ac eiddo nad ydynt yn ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-dendro Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer Ysgolion ac Eiddo nad ydynt yn Ysgolion i sicrhau bod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau gan ei gontractwyr cynnal a chadw.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro fframwaith cynnal a chadw rhagweithiol y Cyngor ar gyfer ysgolion ac eiddo nad ydynt yn ysgolion.  Roedd y fframwaith blaenorol wedi’i dendro am gyfnod o bedair blynedd ac roedd wedi dod i ben y cyfnod ac angen ei dendro eto.

 

Roedd Tîm Cynnal a Chadw Eiddo Cyngor Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth atgyweirio eiddo ymatebol o ddydd i ddydd i ysgolion ac adeiladau eraill.  Dewiswyd contractwyr ar ôl tendro yn seiliedig ar gost ac ansawdd, a’u maes arbenigedd.  Dyrannwyd gwaith i gontractwyr gan y ddesg gymorth cynnal a chadw eiddo, a oedd yn bwynt cyswllt cyntaf rhwng defnyddwyr adeiladau a chontractwyr.  Roedd y fframwaith cyfredol angen ei roi ar dendr eto ac roedd disgwyl iddo gael ei ddyfarnu ar gontract dwy flynedd gyda dewis i’w ymestyn am flwyddyn a blwyddyn arall, a oedd yn golygu contract posib’ am bedair blynedd.  Roedd y gwariant blynyddol ar waith atgyweirio a chynnal a chadw tua £2m y flwyddyn, felly £8m dros oes y fframwaith.  Rhannwyd y gwaith i chwe rhan gyda’r bwriad o ddyrannu contractwyr i bob rhan yn y fframwaith gyda chyfres o ddangosydd perfformiad allweddol i sicrhau ansawdd y gwaith a gwerth am arian.

 

Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·        byddai gwaith hyd at £10k yn ddarostyngedig i wobr uniongyrchol i un o’r contractwyr yn y rhannau perthnasol a oedd eisoes wedi cwblhau’r broses sgrinio ac wedi dangos ansawdd a gwerth am arian drwy’r broses fonitro. 

O ystyried y gyfran uchel o waith gwerth isel, roedd gwobr uniongyrchol yn darparu dull effeithlon o sicrhau bod y gwaith hynny yn cael ei gwblhau’n brydlon, yn yr un modd ag unrhyw waith brys gofynnol.  Fodd bynnag, ar gyfer y gwaith gwerth uwch hynny yn nes at £10k, yr arfer arferol oedd cynnal cystadleuaeth fach o fewn y fframwaith.

·        mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne bryderon ynglŷn â’r geiriad yn y ddogfen dendro (paragraff 2.1, a pharagraff 8.1.1) oherwydd ei fod yn ystyried ei fod yn ymwneud â’r anghydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg a gofynnodd bod y cyfeiriad hwn yn cael ei dynnu. Esboniodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd fod y cyfeiriad wedi’i gynnwys er mwyn diogelu’r Cyngor yn erbyn unrhyw anghywirdeb gan y cyfieithwyr allanol ond roedd yn deall ei bwynt.  Cytunodd i geisio adolygiad o’r geiriad a chymryd cyngor gan y cyfreithwyr wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-dendro’r Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer Ysgolion ac Eiddo nad ydynt yn Ysgolion i sicrhau bod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau gan ei gontractwyr cynnal a chadw.