Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

EXTERNAL ENVELOPING AND ENERGY EFFICIENCY FRAMEWORK FOR COUNCIL HOUSING

Cyfarfod: 25/05/2021 - Cabinet (Eitem 5)

5 FFRAMWAITH GWELLIANNAU ALLANOL AC ARBED YNNI AR GYFER TAI’R CYNGOR pdf eicon PDF 311 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i dendro’r fframwaith gwelliannau tai nesaf i gaffael gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni gwaith atgyweirio allanol sylweddol i stoc dai’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo defnyddio Fframwaith Gwelliannau Allanol ac Arbed Ynni ar gyfer Tai’r Cyngor i ddarparu'r gwelliannau angenrheidiol yn unol â chynllun busnes y stoc dai.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i dendro’r fframwaith gwelliannau tai nesaf i gaffael gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni gwaith atgyweirio allanol sylweddol i stoc dai’r Cyngor a chynnal cyflwr y stoc dai yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Darparwyd peth gwybodaeth gefndir mewn perthynas â rheoli stoc dai’r Cyngor ac atgyweiriadau mawr sylweddol a gwblhawyd i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.  Daeth y rhaglen gyfredol o welliannau i ben ym mis Mai 2021 a’r bwriad oedd mynd ymlaen â’r rhaglen gyfalaf nesaf yn yr hydref 2021. Byddai gwaith hefyd yn cynnwys mesurau arbed ynni cynyddol er mwyn sicrhau bod targedau corfforaethol a thargedau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyrraedd, lle’r roedd hynny’n ariannol hyfyw, ac roedd ffyrdd newydd o weithio wedi cael eu treialu i ddarparu gwelliannau o ran arbed ynni ac olrhain gwelliannau.  Cynigiwyd fframwaith pedair blynedd i gyflawni’r gwelliannau a oedd yn caniatáu ar gyfer gwaith allanol pellach ynghyd â mesurau ynni ôl-osod os oedd grantiau yn y dyfodol yn caniatáu hynny.  Roedd cost y fframwaith oddeutu £10m yn dibynnu ar lefel y gwaith a oedd ei angen ar gyfer pob rhan berthnasol.  Roedd y gwariant arfaethedig wedi’i gynnwys yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai, y cynllun gwariant presennol a chynllun gwariant y dyfodol.

 

Croesawodd y Cabinet y gwelliannau a wnaed i’r stoc dai dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd ag effaith cyllid Grant Ôl-Osod Llywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau arbed ynni, a rhoddodd deyrnged i bawb a oedd yn gysylltiedig â hynny.  Croesawodd y Cabinet hefyd y gwelliannau arfaethedig wrth symud ymlaen a’r disgwyliad am ragor o gyllid ôl-osod gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni cynlluniau arbed ynni pellach.  Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·        gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhaodd y swyddogion bod y brif fantais, o ran PV solar, i’r tenant. Unwaith yr oedd y sefyllfa ariannol hirdymor yn hysbys byddai gwaith yn cael ei gynnal i nodi mecanweithiau i alluogi’r Cyngor i dderbyn elw ar y ddarpariaeth ynni; roedd sefydlu cwmni ynni drwy gydweithrediad yn ddewis i’w ystyried yn y dyfodol.

·        gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am sicrwydd bod y tîm tai yn cadw i fyny â’r datblygiadau arbed ynni diweddaraf, yn cynnwys dechrau technoleg hydrogen, er mwyn i’r Cyngor fod yn y sefyllfa orau i elwa o unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol. 

Darparodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion sicrwydd yn hynny o beth gan gadarnhau deialog rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru a briff ar gynlluniau amrywiol er roedd peth cyngor gwrthdrawiadol mewn perthynas â thechnolegau newydd, a byddai’r mater yn cael ei adolygu’n agos.  O ran boeleri hydrogen parod, byddent yn debygol o fod ar gael peth amser cyn yr isadeiledd i’w cefnogi a byddai angen gwneud llawer o waith yn genedlaethol cyn i foeleri hydrogen ddod yn arferol yn y stoc dai.  Roedd y Cynghorydd Jones yn awyddus i'r Cyngor fod yn rhagweithiol wrth wneud cysylltiadau gyda'r meysydd diwydiant hynny ar flaen datblygiadau o’r fath yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a'r Gogledd Orllewin a chymryd rhan ar y cyfle cyntaf posib’.

·        o ran y risg o her gyfreithiol a nodwyd yn yr adroddiad, cadarnhaodd y swyddogion ei bod yn risg safonol gydag unrhyw ymarfer caffael ac nid yn benodol i’r fframwaith gwelliannau tai.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo defnydd y Fframwaith Gwelliannau Allanol ac Arbed Ynni ar gyfer Tai’r Cyngor i gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen yn unol â chynllun busnes y stoc dai.