Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 25/05/2021 - Cabinet (Eitem 7)

7 ADRODDIAD CYLLID (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2020/21) pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu), yn manylu ar sefyllfa ariannol derfynol y Cyngor ar gyfer 2020/21 a’r argymhellion arfaethedig i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2020/21;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2020/21 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn gryno, y sefyllfa derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys tanwariant ysgolion o £7.058m) oedd tanwariant o £9.457m.  Roedd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau cyllideb 2020/21 wedi cael eu darparu (£4.448m).  Tynnwyd sylw at effaith y coronafeirws a’r cyllid grant sylweddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru – derbyniwyd £19m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyda’r rhagdybiaeth y byddai’r hawliadau grant terfynol (£2.7m) yn cael eu talu yn llawn. Roedd meysydd eraill i’w nodi’n cynnwys balans ysgol cyffredinol o £5.670m i’w gario ymlaen (cynnydd o £7.058m o’r balansau diffyg a gariwyd ymlaen i 2020/21, sef £1.388m) gyda llawer o’r cyllid hwnnw i gael ei ddefnyddio yn 2021/22 i adfer yn dilyn effeithiau Covid-19. Amlygwyd elfennau allweddol o’r tanwariant yng nghyllidebau corfforaethol (£1.874m) a oedd yn caniatáu i wasanaethau gydag ymrwymiadau yn 2021/22 gyflwyno cynigion i gario eu tanwariant ymlaen i dalu’r costau hynny a chynyddu’r Gronfa Lliniaru'r Gyllideb.  Gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2021/22 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes.  Cyfeiriwyd hefyd at y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod yr adroddiad wedi cael ei ddwyn ymlaen er mwyn cyflawni’r dyddiad cau ar 31 Mai ac er mwyn i’r Cabinet gymeradwyo’r driniaeth o gronfeydd wrth gefn a balansau cyn ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Pwysleisiodd, er i’r ffigyrau edrych yn uchel, roedd y ddau symudiad mawr yn ymwneud â balansau ysgol a chynlluniau cyfalaf.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         cyfeiriwyd at yr effaith ar falansau ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'r rhan fwyaf o ysgolion â balansau cadarnhaol. Ymatebodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i gwestiynau ynglŷn ag Ysgol Gatholig Crist y Gair ac esboniodd y rhesymeg y tu ôl i’r balans diffyg, a oedd yn ddisgwyliedig o ystyried bod yr ysgol newydd wedi dechrau heb falans a gwnaed taliadau yn ddyledus, ac effaith dilynol nifer cynyddol o ddisgyblion.  Felly, nid oedd achos i boeni, roedd rhagamcanion yn nodi y byddai gan yr ysgol falans cadarnhaol o £584k erbyn y drydedd flwyddyn. Esboniwyd ymhellach y system a oedd mewn lle ar gyfer cynorthwyo ysgolion a oedd mewn trafferth ariannol yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau adfer ariannol a oedd wedi bod yn hynod effeithiol. Darparwyd sicrwydd pellach o ran y cyfathrebu ardderchog gydag ysgolion a alluogodd adnabod pryderon neu bryderon posibl yn fuan ac i'r Cyngor weithio gydag ysgolion i'w datrys.

·         mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn ag argaeledd cyllid yn y dyfodol ar gyfer busnesau a oedd yn parhau i’w chael hi’n anodd yn ariannol, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth Cymru yn y broses o gwblhau cynllun newydd wedi’i anelu at fusnesau a fyddai’n cael ei weinyddu drwy Wasanaethau Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio a’i gefnogi gan y Tîm Refeniw a Budd-daliadau.

 

Rhoddodd y Cabinet deyrnged i waith y swyddogion cyllid wrth ymateb i’r heriau a wynebwyd yn ystod blwyddyn anodd iawn a’u gwaith wrth reoli arian yn gyffredinol a oedd hefyd yn rhoi hyder i aelodau bod arian y Cyngor yn cael ei reoli’n effeithiol.  Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y gwaith cadarnhaol ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a CLlLC a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol lle’r oedd cydnabyddiaeth am  ...  view the full Cofnodion text for item 7