Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 25/05/2021 - Cabinet (Eitem 3)
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
CYLLID CODI’R
GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH DE CLWYD
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol: yr
Economi a’r Parth Cyhoeddus a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Chefn Gwlad, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151, Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Arweinydd, i gytuno ar gais i’w
gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar gyfer etholaeth De Clwyd. Bydd hyn yn cael ei wneud ar ôl trafod gydag
Aelodau Lleol Dyffryn Dyfrdwy.
Cofnodion:
Cadarnhaodd yr
Arweinydd fod angen rhoi sylw brys i’r mater canlynol -
Cyllid Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU – Etholaeth
De Clwyd
Roedd y brys mewn
perthynas â’r adroddiad oherwydd y terfynau amser tynn ar gyfer cyflwyno’r cais
er mwyn galluogi Dyffryn Dyfrdwy i elwa o’r cyfle cyllido sylweddol.
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw fel atodiad
i’r rhaglen) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod at
ddibenion cytuno ar gais ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i
Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd (yn dilyn trafodaethau gydag Aelodau
Dyffryn Dyfrdwy).
Pwrpas y cyllid
adfywio, a fyddai’n cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol, oedd i fuddsoddi
mewn prosiectau isadeiledd. Roedd
ceisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth AS. Roedd tair ardal yn Sir
Ddinbych: Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd a De Clwyd. Roedd dyddiad cau cychwynnol ar 18 Mehefin
2021 i gyflwyno cais er byddai dyddiadau cau eraill yn cael eu cyhoeddi maes o
law. Roedd yr adroddiad presennol yn ymwneud â De
Clwyd gyda rhan fwyaf yr etholaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac
roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu cais ar y cyd, gyda Chyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn awyddus i gyflwyno cais erbyn 18 Mehefin 2021.
Oherwydd y terfynau amser heriol iawn, ceisiwyd awdurdod dirprwyedig i
gymeradwyo’r cais terfynol i’w gyflwyno. Byddai ceisiadau ar gyfer etholaethau
Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd yn cael eu cyflwyno’n ddiweddarach a byddai
cyfarfod briffio’r Cyngor yn cael ei drefnu i ystyried sut i wneud y mwyaf o’r
cyfle am gyllid a sut y gallai aelodau ymgysylltu â’r broses.
Manylodd yr Arweinydd ar drafodaethau gyda Simon Baynes AS a gwaith parhaus i ddatblygu’r cais ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a nodi prosiectau cymwys posibl o fewn ardaloedd Llangollen a Chorwen. Derbyniwyd bod y broses yn cynnwys ffordd newydd o weithio gyda swyddogion yn gorfod addasu eu dull er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion y cynnig cyllido. Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Parth Cyhoeddus drosolwg o’r Cyllid Codi’r Gwastad a’r goblygiadau ar gyfer Sir Ddinbych, yn enwedig o ystyried y dull yn seiliedig ar etholaeth a’r angen i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gais ar y cyd ar gyfer De Clwyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Gorllewin Clwyd. Fe allai pob ardal etholaeth wneud cais am uchafswm o £20m o gyllid cyfalaf a byddai cyfanswm y cyllid yn cael ei bennu ar sail gystadleuol yn erbyn mecanwaith sgorio. Roedd rhan o’r broses yn ymwneud â dangos bod gan y cais gefnogaeth leol a chefnogaeth yr AS. Roedd £120k o gyllid refeniw wedi cael ei ddyrannu i bob awdurdod lleol i gefnogi datblygiad y ceisiadau. O ran De Clwyd, roedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam brosiect hirdymor ar gyfer Basn Trefor a’r ardal gyfagos a oedd yn rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd ac roedd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau datblygu ei gynigion ar gyfer ardal Dyffryn Dyfrdwy gyda hyder y byddai modd bodloni’r dyddiad cau ar 18 Mehefin 2021. Esboniodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd bod y cais ar y cyd yn canolbwyntio ar y Safle Treftadaeth y Byd a’r prosiect trosfwaol ‘Cynllun Adfywio Twristiaeth Coridor Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte’ a oedd yn cynnwys tri phrosiect (1) (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn llwyr) Uwchgynllun Basn Trefor, (2) (Llangollen) symudiad ymwelwyr o fewn yr 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd, a (3) (Corwen) symudiad ymwelwyr a darparu pwyntiau mynediad newydd i Ddyffryn Dyfrdwy ... view the full Cofnodion text for item 3