Mater - cyfarfodydd
DATGANIADAU O FUDDIANT
Cyfarfod: 25/05/2021 - Cabinet (Eitem 2)
2 DATGAN CYSYLLTIAD PDF 197 KB
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gan eu bod yn
llywodraethwyr ysgol, datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Meirick Davies,
Huw Hilditch-Roberts, Tony Thomas, Emrys Wynne a Mark Young gysylltiad personol
ag eitem 7 ar y rhaglen – Adroddiad Ariannol (Alldro Ariannol 2020/21) gan ei fod
yn ymwneud â balansau ysgolion.
Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 3 ar y rhaglen – Materion Brys: Cyllid Codi'r Gwastad ar gyfer Etholaeth De Clwyd gan ei bod yn Gadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd sydd wedi darparu cyllid ar gyfer y pedwar prosiect priffyrdd yn Llywodraeth.
Cofnodion:
Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen – Adroddiad
Cyllid (Sefyllfa Ariannol Derfynol 2020/21) cyn belled ag yr oedd yn ymwneud â
balansau ysgol -
Y Cynghorydd Joan
Butterfield – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Gatholig Crist y Gair
Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog
Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras
Y Cynghorydd Emrys
Wynne – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn
Y Cynghorydd Mark
Young – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Dinbych
Datganodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 3 ar y rhaglen –
Materion Brys: Cyllid Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU - Etholaeth De Clwyd
oherwydd mai hi oedd Cadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd a oedd
wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect Pedair Priffordd yn Llangollen.