Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PHASE 1 ENABLING WORKS - COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE EXPANSION INCLUDING DCC WASTE TRANSFER STATION - CONTRACT AWARD

Cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet (Eitem 8)

8 CAM 1 GWAITH GALLUOGI - ESTYNIAD YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY GAN GYNNWYS GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDd - DYFARNU CONTRACT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyfarnu’r contract ar gyfer darparu Cam 1 yr estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

 (a)      cymeradwyo dyfarnu Contract ar gyfer Cam 1 Gwaith Galluogi – Estyniad Ystâd Ddiwydiannol Colomendy gan gynnwys Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff CSDd i’r contractwr a enwyd fel yr argymhellwyd o fewn yr adroddiad ac yn unol â’r Adroddiad Argymhellion Dyfarnu Contract (Atodiad 1 i’r adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i gyflawni Cam 1 yr estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, gan gynnwys Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (GTG) Cyngor Sir Ddinbych.

 

Roedd manylion y prosesau a gyflawnwyd yn ystod yr ymarfer caffael yn cael eu manylu yn yr adroddiad gan gynnwys pris a graddfa ansawdd ac amcangyfrif o werth yn arwain at ddewis y contractwr a ffefrir.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y dull gweithredu ar y cyd a’r buddion a fyddai hynny yn ei gynnig o safbwynt credu gwaith yn yr ardal ac o safbwynt darparu cyfleusterau o ansawdd uchel i’r cyngor.  Talodd deyrnged hefyd i’r Rheolwr Prosiect a’i dîm am y gwaith a wnaed.  Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Aelod Arweiniol dros Gyllid i fwy o fanylder ynglŷn  â'r gost a'r buddion i'r cyngor, a’r broses o adfer costau gan y consortiwm a’r bwriad y byddai’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn cynnwys technolegau ecogyfeillgar er mwyn lleihau ei ôl troed carbon.

 

Croesawodd y Cabinet y cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat a’r buddion y byddai hynny’n ei gyflwyno i’r ardal.  Ar ôl ystyried manylion yr adroddiad, roedd y Cabinet yn fodlon gyda chanlyniad y broses gaffael a’r argymhellion.  Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r swyddogion am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo dyfarnu’r Contract ar gyfer Gwaith Galluogi Cam 1 – Estyniad Ystâd Ddiwydiannol Colomendy gan gynnwys Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyngor Sir Ddinbych i’r Contractwr a enwir yn yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ac yn unol â’r Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cyn cau’r cyfarfod, ac ar gais yr Arweinydd rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau drosolwg o’r sefyllfa gyfredol o safbwynt Covid-19. Yn gyffredinol roedd y darlun ar draws Cymru yn gwella, heb unrhyw frigiad mawr o achosion.  Dim ond pump achos positif a gofnodwyd yn Sir Ddinbych dros y pum niwrnod diwethaf gyda cyfartaledd treigl saith diwrnod o 5.2 achos fesul 100,000 o boblogaeth, o’i gymharu â chyfartaledd cyffredinol Cymru o 12.2 fesul 100,000 o boblogaeth.  Roedd trafodaethau ar lefel cenedlaethol yn mynd rhagddynt ynglŷn â thrydydd ton, er nad oedd disgwyl i hynny olygu y byddai’r un nifer o bobl angen gofal ysbyty brys nac o bosib yn marw o ganlyniad i Covid-19, oherwydd y rhaglen frechu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am.