Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

QUEENS BUILDINGS RHYL - PHASE 1 PROCUREMENT

Cyfarfod: 27/04/2021 - Cabinet (Eitem 5)

5 ADEILADAU'R FRENHINES Y RHYL - CAFFAEL CAM 1 pdf eicon PDF 46 KB

I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi'i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1 Datblygiad Adeiladau’r Frenhines y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1 datblygiad Adeiladau’r Frenhines y Rhyl.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Hugh Evans a Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y cyd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1 datblygiad Adeiladau'r Frenhines, Y Rhyl.

 

Darparwyd peth gwybodaeth gefndir mewn perthynas â chaffael y safle a chynlluniau ar gyfer ei ailddatblygu (dros nifer o gamau/cyfnodau) a ystyriwyd yn hollbwysig i adfywiad a llwyddiant economaidd yr ardal yn y dyfodol.  Roedd y gwaith o ddymchwel y safle yn mynd rhagddo’n dda ac roedd angen proses gaffael ar gyfer y cam nesaf er mwyn penodi prif gontractwr ar gyfer cam 1 y datblygiad.    Ychydig o dan £11 miliwn oedd yr amcangyfrif o gost cyffredinol cyflenwi cam 1, a dim ond o safbwynt caffael ar gyfer y cam adeiladu oedd yr adroddiad yn berthnasol, gydag amcangyfrif o £4 miliwn ar gyfer gwerth y contract.  Roedd manylion yr amcangyfrifon o gost wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, yn ogystal ag amserlenni cyflawni er mwyn cyrraedd terfynau amser cyllid grant.  Cynigiwyd defnyddio Lot 3 Partneriaeth Adeiladu Goledd Cymru a cheisiwyd awdurdodiad i gychwyn caffael gan ddefnyddio’r fethodoleg honno gan ddod ag adroddiad yn ôl i'r Cabinet ar y penderfyniad terfynol ar gontractwr a gymeradwywyd.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Meirick Davies bwysigrwydd cadw cymaint o’r elfennau pensaernïol / hanesyddol o’r adeiladau â phosib a rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd o ran hynny, gan nodi fod swyddogion yn cadw briff gwylio.

 

PENDERFYNWYD fod y Cabinet yn cymeradwyo'r strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1 datblygiad Adeiladau'r Frenhines, Y Rhyl.