Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

RECOMMENDATIONS OF THE STRATEGIC INVESTMENT GROUP

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (Eitem 8)

8 ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad er mwyn eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2021/22 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2021/22 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus.  Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu’r cynigion am ddyraniadau a darparwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod, gan gynnwys y ffynhonnell gyllid argymelledig ar gyfer pob prosiect, ynghyd â'r rhesymeg ar gyfer cefnogi'r prosiectau a'r dyraniadau penodol hynny.

 

Ystyriodd y Cabinet yr argymhellion a fanylwyd arnynt o fewn yr adroddiad.  Tynnodd y Cynghorydd Tony Thomas sylw at yr angen i ystyried y Prosiect Awyr Dywyll (AOHNE - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) fel rhan o waith Oleuo LED Cynaliadwy (Salix) i ddisodli goleuadau stryd presennol. Cafwyd ar ddeall bod y model goleuadau stryd presennol yn cydymffurfio gyda gofynion hynny a bod yr Adran Briffyrdd yn ymwybodol o'r manylion technegol o ran hynny. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurhad o’r cyfleusterau a ddarparwyd i Gymorth Tai’r Sector Preifat, a cadarnhawyd y byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer addasiadau ar raddfa fawr i lety preifat, i sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer y sawl ag anableddau.

 

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yn Nghynllun Cyfalaf 2021/22 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.