Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

WELSH GOVERNMENT TRANSFORMING TOWNS PROGRAMME

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (Eitem 7)

7 RHAGLEN TRAWSNEWID TREFI LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod ar gyfer dibenion sicrhau buddsoddiad adfywio yn Sir Ddinbych o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD (yn dilyn cymeradwyaeth wreiddiol y Cyngor ar 22 Mai 2018) y dylai’r Cabinet gymeradwyo awdurdod dirprwyedig parhaus i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer blynyddoedd ariannu 2021-22 (Blwyddyn 4) a 2022-23 (Blwyddyn 5) er mwyn –

 

 (i)        gwneud unrhyw geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i sicrhau adnoddau o’r rhaglen Trawsnewid Trefi ar gyfer cyfnod ei weithrediad;

 

 (ii)       derbyn a gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen Trawsnewid Trefi, yn cynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti;

 

 (iii)      ailnegodi ac ymgymryd ag unrhyw gytundebau newydd gyda chynghorau eraill gogledd Cymru fel bo’r angen i ymgeisio neu i dderbyn arian rhaglen Trawsnewid Trefi, a

 

 (iv)      chytuno ar unrhyw newidiadau/diweddariadau a wneir i Gynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru (RRP).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a alwyd yn Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn flaenorol, a dirprwyo awdurdod er pwrpas diogelu buddsoddiad i adfywio.

 

Roedd y Cabinet wedi cefnogi datblygiad y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn 2018. Roedd gan y rhaglen ranbarthol gyllideb o tua £16 miliwn, ac roedd Sir Ddinbych wedi manteisio'n llwyddiannus ar dros £4 miliwn o fuddsoddiad yn ei threfi. Roedd yr adroddiad yn manylu ar barhad y rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf gyda rhai newidiadau, gan gynnwys dyrannu dros hanner o’r cyllid i’r cynllun ‘Thematig Trawsnewid Trefi Gwneud Lleoedd’ ond roedd y meini prawf yn aneglur ar hyn o bryd, a faint a phryd fydd cyllid ar gael. Cynghorodd yr Arweinydd, o wybod y dull ehangach o weithio o ran y cyllid, gobeithiwyd y byddai rhagor o hyblygrwydd ar gyfer prosiectau yn y cynllun, a darparodd sicrwydd y byddai'r aelodau yn cael eu ymgynghori ar y cam nesaf, unwaith roedd gwell dealltwriaeth o’r meini prawf. Wrth groesawu’r pecyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, amlygodd yr Arweinydd bod angen canolbwyntio fwy ar drefi wrth symud ymlaen, gan gydnabod yr heriau sylweddol a wynebwyd, ac i greu trafodaeth o fewn yr awdurdod i ddeall y gefnogaeth a'r buddsoddiad angenrheidiol wrth symud ymlaen.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad yn fanylach fel a ganlyn -

 

·         mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd creu’r trafodaethau hynny i ddechrau, i nodi’r buddsoddiad sydd ei angen mewn trefi, ac yna teilwra prosiectau i ddiwallu’r meini prawf ar gyfer cefnogaeth grant, a allai olygu gweithio mewn partneriaeth gydag eraill wrth symud ymlaen

·         yn nhermau sut i liniaru'r risgiau sy'n cael ei creu gan ddiffyg amser ac arbenigedd staff, cynghorodd swyddogion y byddai cyfle i godi refeniw ar brosiectau a fyddai'n galluogi prynu adnoddau arbenigol neu helpu i osod costau staffio yn eu herbyn a fyddai’n sicrhau bod yna ddigon o staff a medrusrwydd i gyflawni'r prosiectau hynny. 

Roedd y rhaglen yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd ac roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai'n ei hymestyn ymhellach, felly o ystyried yr adnoddau staffio cyfyngedig byddai angen blaenoriaethu prosiectau ynghyd â strategaeth cyflenwi dros y blynyddoedd nesaf; serch hynny, y cam cyntaf oedd i ddeall meini prawf y cyllid

·         Amlygodd y Cynghorydd Richard Mainon ei rwystredigaeth o ran natur tymor byr y rhaglen, a nad oedd yn darparu digon o gyfle i ymgymryd â dull mwy strategol o weithio i fuddsoddi mewn trefi, a fyddai'n cael mwy o effaith a gwell newidiadau arloesol yn y dyfodol, sy'n ofynnol er mwyn cyflenwi i fusnesau a phreswylwyr. 

Cytunodd yr Arweinydd gyda’r manteision o gael dull strategol o weithio i fuddsoddi yn y tymor hir, ac adleisiodd waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth lobio ar gyfer dyraniad cyllid tair blynedd gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl dweud hynny, amlygodd yr Arweinydd y buddsoddiad sylweddol yr oedd Sir Ddinbych wedi manteisio arno dros gyfnod y rhaglen, a oedd wedi cael effaith er nad oedd yn rhan o ddull strategol o weithio yn y tymor hir, ac roedd y Cyngor wedi gweithio o fewn yr amgylchedd ariannol presennol, ac mewn safle da ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD (yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 22 Mai 2018) bod y Cabinet yn cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 7