Mater - cyfarfodydd
DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL'S CLIMATE AND ECOLOGICAL CHANGE STRATEGY (2021 - 2029)
Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (Eitem 5)
5 STRATEGAETH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH (2021 - 2029) PDF 226 KB
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd a Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynglhwm) yn cyflwyno’r ddogfen strategaeth derfynol i’r Cabinet ei ystyried, ac
argymell i’r Cyngor ei mabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
- CLIMATE CHANGE AND ECOLOGICAL STRATEGY - APP A WBIA Appendix A, Eitem 5 PDF 116 KB
- CLIMATE CHANGE AND ECOLOGICAL STRATEGY - APP B STRATEGY, Eitem 5 PDF 1 MB
- CLIMATE CHANGE AND ECOLOGICAL STRATEGY - APP C SUMMARY INFOGRAPHICS, Eitem 5 PDF 514 KB
- CLIMATE AND ECOLOGICAL CHANGE STRATEGY - APP 4 NOTABLE RISKS, Eitem 5 PDF 202 KB
- Webcast for STRATEGAETH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH (2021 - 2029)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) argymell bod y
Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid
Ecolegol (2021/22-2029/30), ac yn
(b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad A o’r
adroddiad) i ystyriaeth fel rhan o'i benderfyniad.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorwyr Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd a
Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Strategaeth ar Newid Hinsawdd a
Newid Ecolegol derfynol Cyngor Sir Ddinbych i’r Cabinet er ystyriaeth ac
argymhelliad i’r Cyngor i’w mabwysiadu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd
Brian Jones at y swm sylweddol o waith a wnaed ers y Datganiad o Argyfwng Newid
Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn 2019, sydd wedi arwain at ddogfen
Strategaeth yn manylu ar sut fyddai nod y Cyngor o fod yn ddi-garbon net ac yn
gadarnhaol yn ecolegol yn cael ei gyflawni. Pe bai’r Strategaeth yn cael ei
chymeradwyo, byddai angen i'r Cyngor gyflwyno tua £9 miliwn dros y tair blynedd
nesaf, gyda rhagor yn y dyfodol, ac roedd yn hyderus iawn mai dyma'r peth iawn
i’w wneud, ac y byddai'n fanteisiol iawn i'r awdurdod wrth symud ymlaen. Fel
Aelod Arweiniol Bioamrywiaeth, adroddodd y Cynghorydd Tony Thomas ar y rhaglen
plannu coed a’r prosiect planhigfa goed ynghyd â’r gwaith a wnaed i gefnogi
ecosystemau.
Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd at
darged Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru di-garbon erbyn 2050 a chyngor y
Pwyllgor Newid Hinsawdd ar leihau carbon ac amsugniad i roi cap ar dymheredd
cynhesu byd-eang a chyfyngu’r effaith ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth. Roedd y Strategaeth yn cynrychioli cyfraniad
y Cyngor wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a helpu Cymru i
ddiwallu ei uchelgeisiau di-garbon a chyflawni ar ddyletswyddau bioamrywiaeth.
Cafodd ei llunio ar y cyd ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda’r cyhoedd, ac
mae'n darparu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer 2030 ynghyd â map llwybr o sut y
caiff ei chyflawni, bancio manteision gostyngiad mewn carbon, cynnydd yn
amsugniad carbon a gwell rhywogaethau, yn ogystal â buddion mewn perthynas a’r
economi, iechyd a lles.
Croesawodd y Cabinet y Strategaeth gan gydnabod y
gwaith sylweddol a wnaed i’w datblygu'n brydlon ers Datganiad Argyfwng Newid
Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor. Wrth arnodi’r Strategaeth yn llawn, talodd
y Cabinet deyrnged i bob un oedd wedi’u cynnwys ar draws y Cyngor a’r partïon
gwleidyddol ynghyd ag aelodau’r cyhoedd am eu cyfraniad, gan gydnabod y frwdfrydedd
a'r gefnogaeth eang. Wrth gydnabod y cyllid sylweddol sydd ei angen i
gyflawni’r Strategaeth a’r hinsawdd ariannol anodd sy’n debygol wrth symud
ymlaen, amlygodd y Cabinet bwysigrwydd y Strategaeth a’i chyflawniad ar gyfer
cenedlaethau'r dyfodol, ac roeddent yn unfrydol mai dyna oedd y cam gweithredu
iawn.
Yn
ystod y drafodaeth, cododd y Cynghorydd Mark Young nifer o gwestiynau yn
ymwneud â’r Strategaeth ac fel Aelod Arweiniol ar gyfer y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) roedd yn awyddus i’r CDLl fod mor wyrdd â phosib. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen -
·
cafodd fforddiadwyedd ei
gydnabod fel risg allweddol i’r Cyngor allu gyflawni’r Strategaeth, ond byddai
nifer o’r mesurau i’w gweithredu’n arbed arian yn y tymor byr a’r tymor hir, yn
ogystal â chynhyrchu incwm; byddwn yn gwneud y mwyaf o gyfleodd cyllid grant
gan Lywodraethau Cymru a’r DU
·
roedd gwaith yn mynd rhagddo
gyda’r Adran Cynllunio Polisi ac addysg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn nhermau
datblygiad eu CDLl i ystyried yr agenda gwyrdd ac roedd cefnogaeth barhaus y
Cynghorydd Young yn cael ei werthfawrogi'n arw o ran hynny; roedd ymgysylltiad
gyda datblygwyr drwy gydol y broses cyn gwneud cais a chamau gweithredu pellach
wedi’u cynllunio drwy bolisi cynllunio yn nhermau safleoedd datblygu o fewn y
CDLl a thrwy reoli datblygu
· adeiladau'r cyngor oedd yn gyfrifol am y swm uchaf o allyriadau carbon, a’r targed oedd haneru’r allyriadau hynny dros y naw mlynedd nesaf o ran ynni a dŵr; byddai’r Strategaeth yn cael ei adolygu bob ... view the full Cofnodion text for item 5