Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet (Eitem 9)

9 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 455 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelir y byddai gorwariant o £2.242miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Fe eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill nad oedd yna newidiadau sylweddol ers adroddiad cyllid y mis blaenorol.  Roedd y gorwariant o £2.242 miliwn a ragwelir wedi tybio na fyddai cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a byddai’r ffigurau yn cael eu diweddaru ar ôl i ni dderbyn y cyllid hwnnw yn unol â’r arfer blaenorol.  O ran y Prosiectau Cyfalaf roedd y mwyafrif yn datblygu yn unol â’r disgwyliadau, ac o ran Ailddatblygu Marchnad y Frenhines y Rhyl, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru £1.5 miliwn ychwanegol (yn ogystal â’r £5miliwn o ddyraniad dros dro), gan olygu bod cam 1 y prosiect wedi cael ei ariannu’n llawn.  Roedd y cais cynllunio a gyflwynwyd ar gyfer y prosiect cyfan.  Yn olaf, cyfeiriwyd at y trefniadau grant amrywiol sydd wedi cael eu gweinyddu gan y Cyngor ar ran LlC sy’n ymwneud â Covid-19 dros y deng mis diwethaf, ac mae’r arian sydd wedi’i dalu gan awdurdodau lleol yn fwy na £1 biliwn ac mae Sir Ddinbych wedi talu tua £52 miliwn i fusnesau.  Roedd hyn yn brawf o’r Tîm Refeniw a Budd-daliadau yn gweithio’n tu hwnt o galed a rhoddwyd teyrnged i staff mewn cysylltiad â hynny.

 

Fe dynnodd y Cynghorydd Mark Young sylw at y gefnogaeth ardderchog ac ymateb cyflym roedd y Cyngor wedi’i ddarparu i fusnesau, ond gofynnodd a fyddai rhagor o gymorth ariannol yn dod gan Lywodraeth Cymru o ystyried bod busnesau dal ynghau a’r caledi a achoswyd yn sgil hynny.  Fe eglurwyd bod y cyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru dros y cyfnod clo tan 29 Ionawr, ac roeddynt yn tybio y byddai rownd arall o gyllid ar gael petai’r cyfnod clo yn parhau ar ôl y dyddiad hwnnw, ond nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dim am hynny eto.  Byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu â’r aelodau cyn gynted ag y byddai rhagor o wybodaeth ar gael.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.