Mater - cyfarfodydd
FINAL GROWTH DEAL
Cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet (Eitem 5)
5 Y FARGEN DWF DERFYNOL PDF 293 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i’r dogfennau allweddol sy’n ofynnol i gyrraedd y Fargen Derfynol ar gyfer
Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w cymeradwyo’n ffurfiol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) cymeradwyo yn
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol
fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y
sail ar gyfer bod yn rhan o’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid
Grant gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU;
(b) cymeradwyo’n
ffurfiol y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â
swyddogaethau gweithrediaeth, argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r
darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn
mabwysiadu dirprwyaethau'r cylch gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2:
Atodiad 1” ohono fel y sail ar gyfer cwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y
Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;
(c) cymeradwyo’n
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor
Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;
(d) cymeradwyo’n
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn argymell cymeradwyo’r dull a ddefnyddir
i gyfrifo’r gost benthyg tybiannol angenrheidiol er mwyn hwyluso’r llif arian
negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y
Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r craidd sefydledig a’r cyfraniadau atodol fel
y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 5.5 a 5.7 yr
adroddiad templed a atodir fel rhan o Atodiad 1);
(e) bod y Prif
Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran
151 yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau
gyda’r Partneriaid fel bo’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb, a
(f) bod y Cabinet yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith
ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i
ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd
ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol yr adroddiad i
geisio cefnogaeth y Cabinet o’r dogfennau allweddol sydd eu hangen i gyrraedd y
Fargen Dwf Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w gyflwyno i'r Cyngor
ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys y cefndir mewn perthynas â
chymeradwyaethau o’r holl bartneriaid yn arwain at y sefyllfa bresennol.
Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflawni
Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru erbyn diwedd 2020 ac
roedd y ddogfennaeth berthnasol yn mynd trwy’r prosesau democrataidd ymhob
awdurdod lleol. Gofynnwyd i’r Cabinet
a’r Cyngor, ynghyd â’r holl bartneriaid, gymeradwyo amryw o ddogfennau a
fyddai’n galluogi i’r Fargen Dwf Derfynol gael ei gwblhau.
Pwysleisiodd yr Arweinydd nod y Fargen Dwf i
adeiladu economi mwy cynaliadwy a chadarn yng Ngogledd Cymru mewn partneriaeth
â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda chymorth £240 miliwn o gyllid gan
Lywodraethau’r DU a Chymru dros y 15 mlynedd nesaf. Nod y Fargen Dwf oedd darparu buddsoddiad o
hyd at £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru er mwyn creu 3,400 – 4,200 o swyddi
newydd a chreu £2 - £2.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros erbyn 2036.
Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi
a‘r Parth Cyhoeddus; Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Ad a Chyfraith a
Phennaeth Cyllid, gan grybwyll meysydd canlynol y Fargen Dwf -
·
y
Weledigaeth Dwf a Phortffolio'r Fargen Dwf o fuddsoddiad ynghyd â buddion
uniongyrchol i'r rhanbarth, gan gynnwys ffyniant economaidd; creu swyddi o
ansawdd gwell a gweithlu medrus, a gwelliannau i safonau byw
·
y
portffolio o raglenni sy’n ymwneud ag (1) Ynni Carbon Isel; (2) Digidol; (3)
Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel; (4) Bwyd Amaeth a Thwristiaeth, a
(5) Tir ac Eiddo ynghyd â rhaglenni heb eu hariannu’n uniongyrchol ond a
gefnogir mewn perthynas â Sgiliau a Chyflogaeth a Chludiant
·
dangos
lledaeniad daearyddol y 14 o brosiectau a nodwyd, gyda phob prosiect yn darparu
buddion eang ar draws y rhanbarth gan sicrhau newid
·
egluro’r
prosiectau penodol a nodwyd yn Sir Ddinbych mewn perthynas â (1) Parc Busnes
Llanelwy; (2) Hen Safle Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych; (3) Prosiect Fferm Carbon
Niwtral Llysfasi, a (4) Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan
·
manylion
am gyfreithlondeb y Cytundeb Bargen Dwf Derfynol rhwng yr NWEAB a
Llywodraethau’r DU a Chymru ar gyfer darparu’r Fargen a gaiff ei arwyddo ar
sail achos busnes y portffolio a phump achosion busnes rhaglen
·
amlygu'r
ystyriaethau ariannol gan gynnwys cost y rhaglen a sut gaiff ei ariannu, gan
gynnwys cyfraniadau partner dros dymor o 15 mlynedd ynghyd â chyfraniadau
partner blynyddol a'r fethodoleg tu ôl i'r cyfrifiadau a oedd yn dod a Sir
Ddinbych rhwng £64,000 - £90,000
·
adrodd ar Gytundeb
Llywodraethu 2 i fynd â’r bartneriaeth i gam gweithredu'r Fargen Dwf, gan
barhau'r model llywodraethu a fabwysiadwyd yng Nghytundeb Llywodraethu 1 a
diffinio'r berthynas rhwng y Bwrdd a'i sefydliadau partner, cyfyngiadau'r
ddirprwyaeth ac atebolrwydd.
Roedd manylion y Fargen Dwf wedi cael eu craffu yn
eang ac yn ddiweddar wedi bod yn destun Gweithdy i Aelodau. Nid oedd y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi gallu
mynychu’r Cabinet, a gofynnodd i'r Arweinydd ddarllen ei datganiad ar
ganfyddiadau craffu yn dilyn ystyried y Fargen Dwf ar 5 Tachwedd. Yn gryno, roedd y Pwyllgor Craffu -
·
yn
cydnabod er y byddai’r prosiectau wedi’u lleoli mewn ardaloedd amrywiol ar
draws y rhanbarth, byddent oll, i ryw raddau, yn elwa'r rhanbarth gyfan
·
yn
cytuno ei fod yn hollbwysig bod y Fargen yn symud ymlaen er mwyn sicrhau cyllid
i ddarparu’r prosiect a gwireddu’r buddion economaidd a ragwelir
· wedi cael ... view the full Cofnodion text for item 5