Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 4)
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 (copi ynghlwm).
10.05am – 10.10am
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd
pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei
erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2020.
Materion sy’n Codi -
Rhoddodd y Swyddog Craffu wybod i’r Pwyllgor bod Swyddog Rheoli Rhostiroedd
wedi cael ei benodi’n ddiweddar, fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Tân wedi
cadarnhau eto na fyddent yn ariannu’r swydd ar y cyd gan y teimlwyd y byddai
darparu’r gefnogaeth ariannol hon yn golygu eu bod yn rhoi blaenoriaeth dros
eraill sy'n ceisio cyllid. Fodd
bynnag, byddai’n rhaid i’r Gwasanaeth barhau i ddarparu Cyngor a Chefnogaeth
lle bo angen. Mynegodd Aelodau eu siomedigaeth â’r penderfyniad hwn.