Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROPOSED APPROACH TO TENDERING FOR PHASE 1 / ENABLING WORKS CONTRACT FOR COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE EXPANSION INCLUDING NEW DCC WASTE TRANSFER STATION WTS)

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 5)

5 DULL ARFAETHEDIG O DENDRO AR GYFER CAM 1/ CONTRACT GWAITH GALLUOGI AR GYFER ESTYNIAD I YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, GAN GYNNWYS GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDd

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflawni’r ymarfer tendro arfaethedig i adnabod prif gontractwr i ddarparu Cam 1/ Galluogi Contract Gwaith ar gyfer rhoi estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Caniatau’r ymarfer tendro arfaethedig, a

 

(b)       Nodi y bydd adroddiad arall yn cael ei roi gerbron y Cabinet (drwy'r Grŵp Buddsoddi Strategol) i geisio cymeradwyaeth i'r Dyfarniad Contract dilynol ar ôl yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau'r trefniadau rheoli contract, costau'r tendr a manylion y contract.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig i ganfod prif gontractwr i gyflawni Cam 1/ Contract Gwaith Galluogi ar gyfer estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych, gan gynnwys Adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (GTG).

 

Roedd manylion yr ymarfer tendro arfaethedig wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â’r amserlenni amlinellol a gwerth disgwyliedig y contract, gan gynnwys sut y mae’n gysylltiedig â’r GTG arfaethedig (Plot 1) a’r gwaith galluogi i’w gyflawni (Plotiau 2 i 5).  Cyfeiriwyd at y cydweithio sy’n mynd rhagddo ar yr estyniad i’r safle a chyflawni’r contract wrth symud ymlaen i ddatblygu.  Cydnabuwyd y cyfleoedd ar gyfer busnesau a thwf economaidd sy’n codi o’r estyniad hefyd.  Roedd y cyngor yn arwain ar yr ymarfer tendro oherwydd y rhyngddibyniaethau rhwng y plotiau ar draws y safle cyfan.  Darparwyd sicrwydd bod y prosiect wedi rhoi ystyriaeth i agweddau ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth, gan gynnwys gwarchod cynefinoedd, lleihau nifer y teithiau cerbyd i gasglu gwastraff a gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan, a rhoddwyd ystyriaeth hefyd i dechnolegau hydrogen yn y dyfodol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mark Young y cydweithio a’r manteision fydd yn dod yn ei sgil, ac roedd hefyd yn awyddus i sicrhau bod cwmnïau lleol yn cael cyfle i wneud cais.  Darparwyd sicrwydd yn hynny o beth ac roedd disgwyl y byddai yna ddiddordeb lleol yn y tendr, gyda thuedd amlwg i ymgysylltu â busnesau lleol lle bo hynny’n bosib o fewn rheolau'r weithdrefn gontractau.  Byddai’r contract hefyd yn darparu ar gyfer mantais gymunedol a buddsoddiad lleol i gefnogi’r nod honno ymhellach.  Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y swyddogion mai amser swyddogion fyddai’r unig gost gysylltiedig â’r tendr, gan y cyhoeddwyd y tendr drwy GwerthwchiGymru, sy’n adnodd ar y we.  O ystyried gwerth posib y gwaith, bydd amserlenni Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn gymwys a bydd dyfarnu’r contract yn amodol ar adroddiad pellach i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      rhoi cymeradwyaeth i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig, ac yn

 

 (b)      nodi y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet (drwy’r Grŵp Buddsoddi Strategol) i gael cymeradwyaeth ar gyfer Dyfarnu’r Contract wedi hynny, yn dilyn yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli’r contract, costau cyflwyno tendr a manylion y contract.