Mater - cyfarfodydd
PROPOSED APPROACH TO TENDERING FOR PHASE 1 / ENABLING WORKS CONTRACT FOR COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE EXPANSION INCLUDING NEW DCC WASTE TRANSFER STATION WTS)
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 5)
5 DULL ARFAETHEDIG O DENDRO AR GYFER CAM 1/ CONTRACT GWAITH GALLUOGI AR GYFER ESTYNIAD I YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, GAN GYNNWYS GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDd
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
gyflawni’r ymarfer tendro arfaethedig i adnabod prif gontractwr i ddarparu Cam
1/ Galluogi Contract Gwaith ar gyfer rhoi estyniad i Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy, Dinbych.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (5/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (5/3)
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) Caniatau’r ymarfer tendro arfaethedig, a
(b) Nodi y bydd adroddiad arall yn cael ei roi gerbron y Cabinet (drwy'r
Grŵp Buddsoddi Strategol) i geisio cymeradwyaeth i'r Dyfarniad Contract
dilynol ar ôl yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau'r trefniadau rheoli
contract, costau'r tendr a manylion y contract.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig i ganfod prif gontractwr i
gyflawni Cam 1/ Contract Gwaith Galluogi ar gyfer estyniad i Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy yn Ninbych, gan gynnwys Adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (GTG).
Roedd
manylion yr ymarfer tendro arfaethedig wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â’r
amserlenni amlinellol a gwerth disgwyliedig y contract, gan gynnwys sut y mae’n
gysylltiedig â’r GTG arfaethedig (Plot 1) a’r gwaith galluogi i’w gyflawni
(Plotiau 2 i 5). Cyfeiriwyd at y cydweithio
sy’n mynd rhagddo ar yr estyniad i’r safle a chyflawni’r contract wrth symud
ymlaen i ddatblygu. Cydnabuwyd
y cyfleoedd ar gyfer busnesau a thwf economaidd sy’n codi o’r estyniad hefyd. Roedd y cyngor yn arwain ar yr
ymarfer tendro oherwydd y rhyngddibyniaethau rhwng y plotiau ar draws y safle
cyfan. Darparwyd
sicrwydd bod y prosiect wedi rhoi ystyriaeth i agweddau ar newid hinsawdd a
bioamrywiaeth, gan gynnwys gwarchod cynefinoedd, lleihau nifer y teithiau
cerbyd i gasglu gwastraff a gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan, a rhoddwyd
ystyriaeth hefyd i dechnolegau hydrogen yn y dyfodol.
Croesawodd
y Cynghorydd Mark Young y cydweithio a’r manteision fydd yn dod yn ei sgil, ac
roedd hefyd yn awyddus i sicrhau bod cwmnïau lleol yn cael cyfle i wneud cais. Darparwyd sicrwydd yn hynny o
beth ac roedd disgwyl y byddai yna ddiddordeb lleol yn y tendr, gyda thuedd
amlwg i ymgysylltu â busnesau lleol lle bo hynny’n bosib o fewn rheolau'r
weithdrefn gontractau. Byddai’r
contract hefyd yn darparu ar gyfer mantais gymunedol a buddsoddiad lleol i
gefnogi’r nod honno ymhellach. Mewn
ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y swyddogion mai amser swyddogion
fyddai’r unig gost gysylltiedig â’r tendr, gan y cyhoeddwyd y tendr drwy
GwerthwchiGymru, sy’n adnodd ar y we. O ystyried gwerth posib y
gwaith, bydd amserlenni Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn
gymwys a bydd dyfarnu’r contract yn amodol ar adroddiad pellach i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) rhoi
cymeradwyaeth i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig, ac yn
(b) nodi y bydd
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet (drwy’r Grŵp Buddsoddi
Strategol) i gael cymeradwyaeth ar gyfer Dyfarnu’r Contract wedi hynny, yn
dilyn yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli’r
contract, costau cyflwyno tendr a manylion y contract.