Mater - cyfarfodydd
ASBESTOS REMOVAL CONTRACT
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 8)
8 CONTRACT CAEL GWARED AR ASBESTOS PDF 217 KB
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i gychwyn proses gaffael ar gyfer contract gwaith gyda Chontractwyr
Cael Gwared ar Asbestos.
Dogfennau ychwanegol:
- ASBESTOS REMOVAL CONTRACT - APPENDIX 1, Eitem 8 PDF 98 KB
- ASBESTOS REMOVAL CONTRACT - APPENDIX 2, Eitem 8 PDF 915 KB
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) Cytuno i gychwyn y broses gaffael a hysbysebu ar gyfer y contract gwaith
hwn gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos
(b) Cytuno y dylid gweithredu ar unwaith yn dilyn y penderfyniad uchod er mwyn
rhwystro unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract, a
(c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gychwyn proses gaffael ar gyfer
contract gwaith gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig.
Mae’r trefniadau presennol i hwyluso’r gwaith o
gael gwared ar asbestos yn eiddo’r cyngor drwy fframwaith cydweithredol yn dod
i ben ym mis Rhagfyr 2020. I hwyluso
dull mwy hyblyg a syml, argymhellwyd contract gwaith sy’n cynnwys cytundeb ag
un contractwr a chyfraddau sefydlog i sicrhau gwell gwerth am arian a
gwasanaeth wedi’i deilwra’n well. Byddai’r contract gwaith yn cael ei sefydlu am 12 mis i gychwyn, gyda’r
cyfle i’w estyn bob blwyddyn hyd at uchafswm o 10 mlynedd, a dim ond os yw
perfformiad y contractwr yn foddhaol y byddai’r contract yn cael ei adnewyddu. Nodwyd manylion gwerth y contract yn yr
adroddiad, gyda chyfanswm gwerth i’r contract o hyd at £4 miliwn. Er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth ddyfarnu’r
contract, argymhellwyd y dylid gweithredu’r penderfyniad i gychwyn ar y broses
gaffael ar unwaith.
Roedd y Cabinet yn fodlon bod y broses gaffael a
argymhellwyd yn cefnogi anghenion busnes y cyngor ac yn cynnig gwerth am arian. Nodwyd y byddai’r caniatâd i ddyfarnu’r
contract i’r cynigiwr llwyddiannus yn amodol ar adroddiad pellach i'r Cabinet
ym mis Rhagfyr.
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) cytuno i gychwyn
ar y broses gaffael ar gyfer y contract gwaith hwn, gan hysbysebu am Gontractwr
Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig;
(b) cytuno i
weithredu’r penderfyniad uchod ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw oedi i
ddyfarnu’r contract; ac yn
(c) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall a rhoi ystyriaeth i’r Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.