Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

EXTENSION OF THE COUNCIL'S UK LEISURE FRAMEWORK

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 7)

7 ESTYNIAD I FFRAMWAITH HAMDDEN Y DU Y CYNGOR pdf eicon PDF 284 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi estyniad i Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor tan fis Ionawr 2022.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan Ionawr 2022 ar yr un telerau ag y cafodd ei ddyfarnu, ac mewn unrhyw achos bydd y fath gyfnod o estyniad wedi’i gyfyngu i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn unol â Rheoliad 72 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cyd-adroddiad gyda’r Cynghorydd Bobby Feeley, oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyn Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor tan fis Ionawr 2022.

 

Hysbyswyd y Cabinet y bydd tymor pedair blynedd Fframwaith Hamdden bresennol y DU yn dod i ben ym mis Ionawr 2021. Nodwyd y darpariaethau a’r cyfyngiadau o fewn deddfwriaeth caffael, fel yr oedd yn berthnasol i’r fframwaith, ynghyd ag effaith gweithredu o fewn y cyfyngiadau a orfodwyd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Er budd y cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (DLL), a hefyd o ran tegwch i bob darparwr yn y farchnad, argymhellwyd gohirio lansiad proses gaffael newydd tan y flwyddyn nesaf, pan fydd ymarfer newydd a gynlluniwyd yn cychwyn.  Nodwyd fod DLL dan gontract i reoli’r fframwaith bresennol ar ran y cyngor a’u bod yn cefnogi’r estyniad, a bod y cyflenwr presennol, sef Alliance Leisure, wedi cadarnhau y byddai’n fodlon parhau â’r fframwaith bresennol.

 

Cydnabu’r Arweinydd fanteision y fframwaith ar gyfer y cyngor a DLL fel ei gilydd, ac o ran codi amlygrwydd gwasanaethau hamdden y tu hwnt i ffiniau Sir Ddinbych.  Fel Cadeirydd DLL, pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr anawsterau y mae’r cwmni newydd wedi’u hwynebu ers iddo gychwyn ym mis Ebrill a’r heriau i fasnach mewn amgylchiadau anodd, a thalodd deyrnged i’r holl aelodau staff yn hynny o beth.  Roedd y cyhoeddiad am y cyfnod clo diweddaraf wedi bod yn ergyd pellach a'r gobaith oedd y bydd y gwasanaethau'n ailgychwyn ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi.   Ategodd y Cabinet y teimladau hyn.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn cymeradwyo'r estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan fis Ionawr 2022 ar yr un telerau gosod, ac y bydd cyfnod estynedig o’r fath yn gyfyngedig i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn unol â Rheoliad 72 Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.